Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Ionawr 2020.
Roeddwn yn Rhosneigr mewn bore coffi yn ddiweddar, a dywedodd grŵp o fenywod a oedd yn brysur yn gwneud paned i mi ar y pryd, 'A allwn ni gael cyfarfod cyhoeddus i drafod mater y biniau coch?' Nid oeddwn yn siŵr beth roeddent yn ei olygu, felly fe wnaethant esbonio: 'O, wyddoch chi, pan fydd pobl yn cofrestru eu cartrefi gwyliau fel busnesau, mae eu biniau domestig yn cael eu newid am rai busnes, rhai coch. Mae mwy a mwy ohonynt yn y pentref, ac mae'n anghywir, nid ydynt yn talu eu trethi.'
Nawr, ym mis Tachwedd 2018, dywedodd y cyn Brif Weinidog wrthyf nad oedd yn credu bod bwlch yn y gyfraith yma. Dywedodd y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, hefyd, 'Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn cytuno bod yna fwlch yn y gyfraith'. Gadewch i ni edrych ar ddiffiniadau o 'loophole'.
Mae geiriadur Caergrawnt yn ei alw'n gamgymeriad bach mewn cytundeb neu yn y gyfraith sy'n rhoi cyfle i rywun osgoi gorfod gwneud rhywbeth.
Mae geiriadur Collins yn dweud mai camgymeriad bach yw 'loophole' yn y gyfraith sy'n caniatáu i bobl wneud rhywbeth a fyddai fel arall yn anghyfreithlon.
A dyna'r pwynt yma. Yn sicr, dylai fod yn anghyfreithlon i brynu ail gartref a gallu osgoi talu'r trethi y mae'n rhaid i ddinasyddion amser llawn eraill yn yr un gymuned eu talu, a dal i ddisgwyl cael yr un gwasanaethau. Yr hyn y mae stori'r biniau coch yn ei ddweud wrthym yw bod hyn yn dod yn fwy a mwy gweladwy a bod pobl yn mynd yn fwyfwy dig am y peth.
Nawr, os na wnaiff y Llywodraeth gytuno bod bwlch yn y gyfraith yma, a ydych yn cytuno bod camgymeriad bach yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd sydd â chanlyniadau a allai fod yn anfwriadol, ond bod yn rhaid rhoi sylw i hynny yn enw tegwch ac yn enw darparu refeniw mawr ei angen i awdurdodau lleol, refeniw a gollir fel arall?