Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch am y pwynt o drefn, a gwnaf, fe wnaf ddyfarniad arno ar ôl i mi adolygu Cofnod y Trafodion ar gyfer trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny—. Fel y dywedais yn gynharach, ni allaf ei adolygu ar fy ffôn symudol yn y Siambr, er fy mod yn defnyddio cryn dipyn ar fy ffôn symudol weithiau, fel y gŵyr rhai ohonoch sy'n anfon negeseuon testun i mi, ond nid i adolygu trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, byddaf yn ystyried hynny maes o law.