Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 29 Ionawr 2020.
Iawn, ond diolch am dderbyn hyn, Lywydd.
A allech wneud dyfarniad ar Reolau Sefydlog 13.94 a 13.95 ynglŷn ag a oedd ymddygiad Alun Davies yr wythnos diwethaf yn y Siambr yn anghwrtais ac yn amharu ar urddas y lle hwn? Gwaeddodd Alun ar draws y Siambr, 'Rydych chi'n hiliol'. Nawr, yng Nghofnod y Trafodion, mae'r sylw hwn yn dilyn fy enw'n cael ei alw gennych chi, ac nid oeddwn yn rhan o'r sgwrs honno hyd yn oed ar y pryd. Mae hyn yn annerbyniol i mi. Dylai'r Aelodau yma allu gwneud eu pwynt heb fod yn destun bwlio a galw enwau, ac os gwelwch yn dda, hoffwn i sylw Alun gael ei dynnu o'r Cofnod a hoffwn wybod beth yw'r sefyllfa o ran y math hwn o alw enwau.