Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:36, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i fy etholwyr. Mae'r rhai sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl yn dibynnu'n uniongyrchol ar y cyfleusterau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, tra bod gweddill fy etholwyr, sy'n dibynnu ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl, yn poeni'n briodol am y pwysau ychwanegol a allai fod ar gyfleusterau yno pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio. Mewn cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad, ASau ac arweinwyr cynghorau ddydd Gwener diwethaf, siaradodd y bwrdd iechyd yn onest iawn am y problemau y maent yn eu hwynebu gyda chynaliadwyedd gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda'r adran damweiniau ac achosion brys yno’n cael ei chynnal, fel y dywedoch chi, gan un meddyg ymgynghorol parhaol a thri locwm, a bod un meddyg ymgynghorol bellach yn mynd i fod yn ymddeol yn gynt, gan adael y gwasanaeth mewn cyflwr a allai fod yn anghynaladwy.

Cawsom ein sicrhau gan y bwrdd iechyd iddynt fod yn rhan o broses recriwtio agored a pharhaus ers sawl blwyddyn, ond eu bod, er hynny, wedi methu recriwtio meddyg ymgynghorol arall. Pa gymorth y gallech chi fel Gweinidog iechyd ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i helpu i gryfhau eu hymgyrch recriwtio ac annog meddygon ymgynghorol i ymgymryd â'r swyddi gwag hyn yn yr ysbyty? Pa adnoddau y gellid eu darparu i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i helpu i sicrhau bod eu hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gallu ateb y galw ychwanegol a fyddai arnynt pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio?

Ac yn olaf, rydym i gyd yn gwybod y gallai rhai pobl sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn well mewn uned fân anafiadau, a all wneud cymaint mwy na thrin mân anafiadau—megis trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Ond mae cau unedau mân anafiadau, neu leihau oriau fel y gwelsom yn digwydd yn rhai ohonynt, fel Ysbyty Cwm Cynon yn fy etholaeth i, yn gadael cleifion heb fawr o ddewis ond mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly fel rhan o'r cynigion hyn ar gyfer Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, i archwilio'r posibilrwydd o gryfhau unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol fel Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda, a thrwy hynny ddod â gwasanaethau iechyd yn agosach at y bobl a lleddfu pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys?