Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod her ynghlwm wrth y model gwasanaeth y mae'r bwrdd iechyd yn ei argymell ac y byddant yn mynd ati i’w ystyried gyda rhanddeiliaid. Oherwydd mae un o'r opsiynau posibl y maent yn ei nodi yn ymwneud â llai o wasanaeth gan feddygon ymgynghorol, ond cael darpariaeth mân anafiadau yn lle hynny. Ac mae’n her sy'n ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn deall yr ystod o wasanaethau mân anafiadau sydd ar gael—yn fy ymweliad diweddar ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gyda David Rees, gwelais wasanaeth rhagorol dan arweiniad nyrs, dan arweiniad nyrs ymgynghorol, ac ystod eang o weithgaredd y byddech, heb fod yn hir iawn yn ôl, wedi disgwyl iddo gael ei ddarparu mewn uned achosion brys dan arweiniad meddyg.
Felly mae yna her yn codi mewn perthynas â dealltwriaeth y cyhoedd, ond yn yr un modd ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn helpu pobl i gyrraedd y lle iawn. Ac os ydych chi yng nghefn ambiwlans, nid oes angen i chi boeni i ble rydych chi'n cael eich cludo am mai gwaith y gwasanaeth yw mynd â chi i'r lle iawn i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Ac mae'n ymwneud wedyn â sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain, os ydynt yn mynd i gyrraedd safle ysbyty eu hunain. Ond yr ysgogiad ar gyfer hyn yw'r newid yn y staff, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaeth. Ac rwy'n dychwelyd eto—ym mhapur y cyfarwyddwr meddygol, mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn fwyfwy anghynaladwy, ac na ellir cynnal gwasanaethau diogel y tu hwnt i'r tymor byr uniongyrchol heb risgiau annerbyniol i ddiogelwch cleifion. Ac nid wyf yn credu y gall unrhyw wleidydd, mewn unrhyw blaid—yn y Llywodraeth neu'r tu allan iddi—anwybyddu'r rhybudd uniongyrchol a roddir gan y cyfarwyddwr meddygol sydd â goruchwyliaeth dros y ddarpariaeth feddygol trwy'r bwrdd iechyd. Felly, yr her yw sut y maent yn ystyried y pwyntiau a wnewch yn awr am y gwahanol gwestiynau, am y gwasanaethau a ddarperir, ble y'u darperir a sut y'u darperir, ac os bydd newid ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, beth y mae hynny'n ei olygu nid yn unig i'r ddau ysbyty yn yr un bwrdd iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr, ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu o bosibl yn y llif i lawr i Gaerdydd hefyd.
Felly, mae yna her sy'n un resymol nad yw'n ymwneud â'r bwrdd iechyd yn unig, ac rwy'n disgwyl iddynt ei hegluro'n agored ac yn dryloyw. Ac rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad â staff, yn ogystal â'r cyhoedd, yn bwysig iawn o fewn hynny, oherwydd bydd gan staff safbwyntiau clir iawn am ddiogelwch a chynaliadwyedd eu gwasanaeth, ac mae hynny'n aml yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd y dylai, ac na ddylai newid i'r gwasanaeth ddigwydd. Nid yw'n ymwneud ag arian, nid yw'n ymwneud ag ewyllys gwleidyddol i gynnal y gwasanaethau presennol—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â beth yw'r gwasanaeth cywir i'w ddarparu a sut rydych chi'n darparu'r math o ofal rwyf fi ei eisiau ar gyfer fy nheulu ac y mae pob un ohonom ei eisiau ar gyfer ein teuluoedd a'n hetholwyr.