Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 29 Ionawr 2020.
Mae'r camreoli a'r perfformiad gwael a amlygwyd gan fy nghyd-Aelodau yng ngogledd Cymru yn frawychus yn wir, ond ni allaf ond teimlo bod hyn hefyd yn rhywbeth y gallai fy etholwyr i fod yn ei wynebu, felly rwyf am siarad am y problemau sy'n wynebu pobl ym mwrdd iechyd Cwm Taf, wrth i'r amrywiaeth o fesurau arbennig barhau i ddod yn fwyfwy arferol. Er nad yw amseroedd aros cynddrwg ag yn y gogledd, mae'r perfformiad yn parhau i fod yn wael, gyda rhestr gyfan o dargedau wedi'u methu.
Ceir derbyniad ei bod hi'n iawn i bobl aros am amser hir i gael triniaeth, ond nid yw'n iawn o gwbl, nid yw'n dderbyniol. Gall dadleuon ynghylch amseroedd aros fod ychydig yn sych weithiau, ond mae yna bobl y tu ôl i'r ffigurau. Mae gennyf enghraifft o achos, nad wyf yn credu ei fod yn unigryw, gwaetha'r modd. Mae'r person hwn wedi bod yn aros am dros 16 mis i gael triniaeth, ac mae'n ysgrifennu am yr aros, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae hyn wedi cael effaith sy'n cyfyngu'n fawr ar ansawdd fy mywyd. Hyd nes fy diagnosis, roeddwn yn ystyried fy mod yn ddyn a wnâi lawer o weithgarwch corfforol. Roeddwn yn chwarae golff dair gwaith yr wythnos ac yn mwynhau garddio ar fy rhandir hefyd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n hynod o bwysig i mi gadw'n heini yn fy oedran i, ac mae'r aros diddiwedd am y llawdriniaeth yn gwneud i mi deimlo'n ddigalon iawn am fy mod yn ymwybodol o'r ffaith nad wyf yn mynd yn iau a hoffwn fod mewn sefyllfa i fwynhau'r blynyddoedd sy'n weddill o fy mywyd, yn lle aros mewn limbo. Dywedwyd wrthyf y byddwn yn cael y llawdriniaeth cyn y Nadolig, ac yna rywbryd ym mis Ionawr. Ymddengys bod y terfynau amser hyn yn mynd a dod, ac wrth iddynt wneud hynny, mae fy iselder yn gwaethygu.'
Os ydym o ddifrif ynghylch atal salwch, rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned a chynorthwyo pobl i ddilyn ffordd iach o fyw, rhaid i sicrhau triniaeth brydlon pan fo'i hangen fod yn rhan o hynny. Ac os ydyw, pam y dywedir wrthym nad yw'n bosibl parhau â'n gwasanaethau brys?
Wel, mae'n bosibl cael gwasanaethau da mewn gofal sylfaenol sy'n atal salwch ac sy'n helpu pobl i gadw'n iach—cystal ag sy'n bosibl—a chael gwasanaethau ysbyty hefyd pan fo'u hangen. Bydd yna bob amser adegau pan fydd angen triniaeth frys ar bobl ar unwaith. Efallai y gallwn leihau nifer y bobl sy'n cael trawiad ar y galon, strociau ac ati drwy wella iechyd cyhoeddus, ond nid oes neb yn credu y byddai'r holl risgiau'n cael eu dileu. Bydd angen ysbytai a meddygaeth frys bob amser ac o'r herwydd, mae angen darparu gwasanaethau o fewn pellter rhesymol i bawb ym mhob rhan o Gymru.
Ac mae'n rhaid i bellter rhesymol adlewyrchu realiti amseroedd teithio yn ystod tywydd garw, rhaid iddo adlewyrchu diffyg perchnogaeth ar geir mewn cymunedau difreintiedig, a dylid ei gynllunio mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â deddf gofal gwrthgyfartal, sy'n golygu ysbytai i wasanaethu'r poblogaethau lleol drwy'r Cymoedd. Ond fel y gwelsom, mae'r Llywodraeth bresennol wedi bod yn fodlon caniatáu i Ysbyty Brenhinol Morgannwg waethygu a dirywio fel pe bai ganddi obsesiwn ideolegol ynglŷn â chael llai o unedau arbenigol ar gyfer y Cymoedd.
Y Gweinidog iechyd sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae wedi'i wanhau ers cytuno rhaglen de Cymru yn ôl yn 2014. Pam y byddai unrhyw un am fynd i weithio mewn adran sy'n cael ei gwanhau? Mae'r gymhareb o feddygon ymgynghorol yn frawychus. Er bod cyfartaledd y DU yn 7,000 o bobl i bob meddyg ymgynghorol, lle dylai fod yn nes at 4,000, mae'n 15,000:1 yn ein bwrdd iechyd lleol ni. Mae hynny'n sgandal.
Ac mae wedi digwydd oherwydd bod nifer o Weinidogion iechyd wedi rhoi eu bysedd yn eu clustiau ac wedi gwrthod bod yn fwy arloesol mewn perthynas â recriwtio. Mae'n bosibl recriwtio. Deallaf fod Caerdydd yn recriwtio drwy gynnig bonysau cadw staff. Datgelodd sgwrs ddiweddar gyda chyn-feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn lle deniadol i feddygon ymgynghorol weithio ynddo. Mae gan y Gweinidog bŵer i ymyrryd yma.
Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrando ar farn Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau cyfagos—nid mater i'r Rhondda a Phontypridd yn unig yw hwn. Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar bobl yng nghwm Cynon, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a thu hwnt. A wnewch chi annog y Gweinidog i ymyrryd? Rhowch un cyfle olaf inni achub y gwasanaeth hwn y mae cymaint o bobl yn pryderu'n ddifrifol am ei golli.