Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ar ddechrau degawd newydd, pan fydd ein meddyliau'n troi at y dyfodol, mae ein GIG unwaith eto'n cael ei lethu gan broblemau'r gorffennol. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru newydd weld eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Yn ôl ffigurau amseroedd aros y mis diwethaf, dim ond 72 y cant a dreuliodd lai na phedair awr mewn adran damweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, o gymharu â'r targed o 95 y cant. Mae'r ffigurau hyn yn sylweddol waeth na'r llynedd ac mae'n rhaid inni ystyried a gofyn i'n hunain pam y mae hynny.
Bu mwy o gleifion nag erioed yn aros dros 12 awr—ymhell dros 6,500 —pan fo'r targed yn dynodi na ddylai neb aros mor hir â hynny. Methodd y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer ymateb i alwadau a oedd yn bygwth bywyd yn uniongyrchol am yr eildro ers cyflwyno'r targed bum mlynedd yn ôl. Ac er iddi fod yn aeaf mwyn, mae ein GIG unwaith eto wedi cael ei ymestyn i'r pen. Mae gennym sefyllfa lle na all ein GIG ymdopi â phwysau arferol, ac os bydd yn rhaid inni ymdrin â llif o gleifion sy'n dioddef o ffliw tymhorol, neu'r bygythiad sy'n dod i'r amlwg o Tsieina, mae arnaf ofn y bydd ein system gofal iechyd yn chwalu. A hyn er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £30 miliwn ychwanegol yn ogystal â £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf.
Er mwyn dod o hyd i ateb i'n problemau, mae angen gwneud mwy na darparu mwy o arian yn unig, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam fod ein canlyniadau'n waeth, ein hamseroedd aros yn hwy a'n mynediad at wasanaethau yn waeth er ein bod yn gwario cryn dipyn yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr neu'r Alban. Felly mae'n rhaid i ni gwestiynu sut y mae'r £7.5 biliwn a ddyrannwn i iechyd bob blwyddyn yn cael ei wario. Nid yw'n gwestiwn cyfrifo haniaethol am gyllidebau; mae'n gwestiwn sylfaenol am iechyd pobl. Ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n mynd yn ddall yn disgwyl am driniaeth, dinasyddion Cymru'n methu gweithredu am eu bod yn treulio'u dyddiau mewn poen, ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n marw o ganser oherwydd ein bod yn methu gwneud diagnosis ohono'n gynt.
Mae ein GIG wedi'i ddal at ei gilydd gan ymdrechion anhygoel ei feddygon, ei nyrsys a'i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond ni all hynny bara, ac mae pethau eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn. Rhaid inni sicrhau bod y swm sylweddol o arian a wariwn ar iechyd yn cael ei wario'n effeithiol. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion yn hytrach na thaflu arian at y problemau yn y gobaith y byddant yn diflannu—ni fydd hynny'n digwydd. Mae angen inni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol hefyd. Ac mae blocio gwelyau yn dal i fod yn broblem sylweddol. Dywedodd un meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Treforys ei fod yn gwybod am 106 o gleifion a oedd yn ffit yn feddygol ond yn dal yn yr ysbyty am nad oedd pecyn gofal ar gael. Ac eto, ar yr un pryd, dyma ni'n canslo llawdriniaethau, gan adael pobl mewn poen, a allai rwystro eu hadferiad a chynyddu cost triniaeth.