Cymorth i Fyfyrwyr Mewn Prifysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:30, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. A gaf i longyfarch y Llywodraeth ar lwyddiant y pecynnau cymorth diwygiedig ar gyfer addysg uwch? Yn arbennig, wrth gwrs, rydym ni'n gweld cynnydd o fwy na 1,500 o fyfyrwyr sy'n astudio ar lefel ôl-raddedig erbyn hyn, ac mae hynny'n dangos ein bod ni'n parhau yng Nghymru i gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf, ac wrth gwrs, maen nhw'n cyfrannu cymaint at y ffaith bod gennym ni economi sgiliau uchel. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y cynnydd hwn i nifer y myfyrwyr ôl-raddedig yn arwydd o lwyddiant y Llywodraeth o ran ceisio adeiladu'r biblinell sgiliau sydd ei hangen arnom i greu economi o ansawdd uchel â chyflogau uchel?