Statws Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:30, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Onid yw hi'n glir o'r cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael heddiw, o bob rhan o'r Tŷ, bod datganoli yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Lafur wedi methu'n llwyr, a bod hon yn neges sydd wedi treiddio drwodd at bobl Cymru, oherwydd bu cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth yn y pôl piniwn YouGov diweddaraf, ar gyfer annibyniaeth lawn ar y naill law, a hefyd, ar gyfer diddymu'r Cynulliad ar y llaw arall?

Dros 20 mlynedd, rydym ni wedi gweld Cymru yn suddo i waelod y domen o ran incwm yn y Deyrnas Unedig ymhlith y gwledydd cartref; Rydym ni wedi clywed y rhestr faith o fethiannau yn y GIG, y mae'r Prif Weinidog yn awyddus i'w priodoli i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nad oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb dros redeg y gwasanaeth iechyd o ddydd i ddydd. Ond mae'n rhoi cyfle cyfleus iddo roi bai ar rywun arall, ac felly, osgoi cymryd cyfrifoldeb. Y system addysg—rydym ni'n gyson ar waelod tablau cynghrair y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr.

Roedd e'n hyrwyddwr brwd o bleidlais y bobl yn ystod ymgyrch y refferendwm ar yr UE, a bu'n rhaid i ni aros 40 mlynedd am refferendwm ar ôl 1975 i ailystyried penderfyniad pobl Prydain bryd hynny. Onid yw hi'n bryd nawr, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, i bobl Cymru roi eu barn i ni ar ba un a yw ef wedi llwyddo neu wedi methu?