Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 4 Chwefror 2020.
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn dod i'n plith, fel arfer, yn ei bersonoliaeth proffwyd tranc. Rwyf yn anghytuno'n llwyr ag ef ar y rhan fwyaf o bethau y mae wedi eu dweud. Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y mae wedi fy annog i barchu canlyniadau refferendwm; awgrymaf iddo y gallai yntau fod yn dymuno gwneud yr un peth.