Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 4 Chwefror 2020.
Prif Weinidog, mae'n ffaith fod prinder cenedlaethol o feddygon ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru a Lloegr, ond rwyf yn credu'n gryf, mewn amgylchiadau mor heriol, bod yn rhaid i fyrddau iechyd—ac yn enwedig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf—fynd ati i recriwtio'n strategol os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus. Er enghraifft, hysbysebu ar gyfer swyddi parhaol, nid swyddi dros dro, a llunio contractau sy'n golygu nad yw meddygon ymgynghorol ynghlwm wrth un ysbyty, ond y gellir mynnu yn unol â'u contract, eu bod yn symud rhwng dau neu fwy o safleoedd i helpu i ateb gofynion cyfnewidiol. A ydych chi, Prif Weinidog, yn cytuno â mi ar hynny?