1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2020.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru? OAQ55063
Diolchaf i'r Aelod. Darperir gwasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain De Cymru, fel mewn mannau eraill, gan dimau clinigol amlddisgyblaethol, wedi eu dwyn ynghyd mewn clystyrau i ddatblygu ac amrywio gwasanaethau ar gyfer poblogaethau lleol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn pryderu am y posibilrwydd y bydd nifer o feddygfeydd yn fy rhanbarth i yn cau. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at y bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd y bydd meddygfeydd Parc Lansbury a Penyrheol yn cael eu cadw ar agor, yn dilyn y newyddion bod y meddyg teulu yno yn mynd i ymddeol a neb arall wedi ei benodi yn ei le hyd yma, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n bryderus, fodd bynnag, am y darlun cyffredinol ar gyfer meddygfeydd yn y de-ddwyrain, o gofio bod map lliwiau Cymdeithas Feddygol Prydain o bractisau meddygon teulu yn awgrymu y gallai oddeutu 32 o feddygfeydd fod mewn perygl yn rhanbarth bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A darganfu arolwg diweddar a gynhaliwyd ganddyn nhw fod 82 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn pryderu am gynaliadwyedd eu practisau. Nawr, dywed BMA Cymru fod gwraidd y broblem o ganlyniad i ddiffyg buddsoddiad ynghyd â llwyth gwaith cynyddol i feddygon teulu, ac maen nhw'n galw am gynllun gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru, sy'n bolisi y mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau o'i blaid am gryn amser.
Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, pa asesiad y byddech chi'n ei wneud o'r sefyllfa o ran hyfforddi a recriwtio meddygon teulu yn rhanbarth y de-ddwyrain, a pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth a recriwtio digonol o ran meddygon teulu ar gyfer y dyfodol?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r datblygiadau ym meddygfa Parc Lansbury, ac yn ddiolchgar i'm cyd-Aelod, Hefin David, am adrodd i mi am y cyfarfod a gynhaliodd yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr o fwrdd iechyd Aneurin Bevan ar y mater hwnnw. Felly, rwy'n ymwybodol o'r camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd i hysbysebu ar gyfer y swydd wag honno, yn lleol ac yn genedlaethol, a'u bwriad i lenwi'r swydd honno.
Cytunaf â'r Aelod ynghylch pwysigrwydd lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yma yng Nghymru, a bydd yn falch, rwy'n gwybod, o glywed y bu cynnydd o 50 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yng Ngwent y llynedd, gan fynd o 16 i 24 o leoedd, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer y meddygon teulu arweiniol yn ardal Gwent yn y dyfodol.
Ond, mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn fwy na meddygon teulu, ac mae'r clystyrau yng Nghaerffili, y tri chlwstwr yng Nghaerffili, yn fy marn i, yn enghreifftiau da iawn o ddatblygiadau sy'n denu'r ystod ehangach honno o glinigwyr gofal sylfaenol, sy'n gallu darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb ac uniongyrchol. Felly, mae'r gwasanaeth ffisiotherapi cyswllt cyntaf sydd ar gael drwy glystyrau Caerffili yn golygu nad oes yn rhaid i glaf sydd â chyflwr cyhyrysgerbydol aros i weld meddyg yng Nghaerffili, caiff fynd yn syth at y ffisiotherapydd, a fydd yn rhoi'r cyngor clinigol cywir iddo. Ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o sut orau y gallwn gynnal gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Prif Weinidog.