Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 4 Chwefror 2020.
Rwy'n ddiolchgar i Mick Antoniw am godi'r mater hwn y prynhawn yma, a gwn i iddo gael y cyfle yn gynharach i fynegi pryderon ei etholwyr yn uniongyrchol i'r Prif Weinidog. Atebodd y Gweinidog Iechyd gyfres o gwestiynau yr wythnos diwethaf yn y Siambr ac mae ganddo ef gwestiynau yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o ofyn rhagor o gwestiynau ar y mater penodol hwn, ond, unwaith eto, mae wedi bod yma i glywed y cais.