Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch i Mark Isherwood am ychwanegu ei lais at y pryderon yr oedd Leanne Wood wedi'u mynegi'n gynharach yn ystod y sesiwn hon. O ran yr ail fater, rwy'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol, oherwydd bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar y cynnydd o ran y diweddariad ar yr un llwybr canser ar y pumed ar hugain o'r mis hwn.