Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 4 Chwefror 2020.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw, dadl, wrth gwrs, am y gyllideb, ond hefyd am ddyfodol pobl Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â chyd-destun y gyllideb hon: ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod datblygu'r gyllideb hon mewn cyfnod eithriadol o fyr, gyda phroblemau yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol i gyd ei osod hefyd yn erbyn cefndir o £600 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Felly, mae gan drethdalwyr yng Nghymru yr hawl i gwestiynu rhai o benderfyniadau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi yn economi Cymru a datblygu economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelaf hefyd fod naratif y gyllideb yn edrych yn ôl ar gyflawniadau a gwariant Llywodraeth Cymru ar bob adran ers 2016, ond nid yw'n syndod, efallai, mai ychydig o sôn sydd am unrhyw un o'r targedau a fethwyd y mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn ymwybodol ohonynt ac rwy'n credu, yn rhannol o leiaf, yn ysbryd tegwch, y byddai'n ddoethach i Lywodraeth Cymru gyfaddef hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ei gofidiau, er, a bod yn deg â'r Gweinidog, ni chrybwyllwyd cyni yn fanwl iawn tan yn eithaf hwyr yn eich dadl, felly efallai eich bod wedi gwrando ar rai o'm beirniadaethau yn y gorffennol. Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am ei chamgymeriadau ariannol ei hun. Mae hynny'n rhan o Lywodraeth aeddfed, ddatganoledig sydd â phwerau pellgyrhaeddol a chynyddol.
Felly, beth mae'r cyhoedd yn disgwyl ei weld yn y gyllideb hon? Beth ddylem ni ddisgwyl ei weld? Wel, byddwn yn disgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y GIG er mwyn gweddnewid pethau. I fod yn deg, rydych chi wedi rhoi £37 biliwn yn y GIG yng Nghymru ers 2016. Mae hynny'n dra gwahanol i'r toriad cyllid mewn termau real a welsom yn gynharach, rhwng 2011 a 2016, er fy mod i'n gwybod bod hynny pan oedd eich rhagflaenydd yn Weinidog, yn hytrach na chi eich hun. Rydych chi, mi gredaf, fel y soniasoch, yn bwrw ymlaen â gwariant ychwanegol o £400 miliwn ar iechyd, sy'n newyddion cadarnhaol. Mae'r rhain i gyd yn gynnydd o ran arian, felly mae hynny'n dda.
Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n gwneud iawn am y ffaith bod amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod y rhai gwaethaf a gofnodwyd erioed am ddeufis yn olynol yn 2019 ac mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd o dan ryw fath o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru—Betsi Cadwaladr, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mewn mesurau arbennig ers dros bedair blynedd a hanner. Mae hwnnw wedi cael tua £83 miliwn mewn costau gwella, ac eto rhagwelir y bydd diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, nid mater o ddarparu mwy o arian yn unig yw hwn, Gweinidog, nage? Mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni mewn gwirionedd, oherwydd mae dadl am werth am arian i'w thrafod yn y fan yma hefyd.
Dywedir wrthym, yn gyffredinol, bod hon yn gyllideb werdd—disgrifiad gwych, a ffordd glodwiw o geisio symud ymlaen, ond mae'r cwestiwn wedi ei godi: a yw hi'n ddigon uchelgeisiol i fynd i'r afael o ddifrif â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu? A yw'n cyflawni addewidion Llywodraeth Cymru yn ddigonol wrth gyhoeddi argyfwng yn yr hinsawdd, er enghraifft? Nid wyf i'n bersonol yn credu bod digon o fanylion yma ynglŷn â chynnig syniadau newydd ac arloesol o ran sut y bydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn cyrraedd ei tharged o ostyngiad o 95 y cant o leiaf mewn nwyon tŷ gwydr, erbyn 2050.
Rwy'n sylweddoli, Gweinidog, fod y rhain yn ymrwymiadau enfawr, beiddgar, ac y byddan nhw angen ewyllys gref i'w cyflawni, ond nid dim ond mater o ddibynnu ar bolisïau hen ffasiwn ddoe i gyflawni'r nodau yw hyn; mae'n ymwneud â chyflwyno gweledigaeth fentrus, hyderus i Gymru, ac mae angen i ni weld cyllideb sy'n sbarduno gweledigaeth, sy'n gwneud pobl Cymru yn rhan ohoni, sy'n ysbrydoli ac yn ysgogi pobl Cymru. Oherwydd mae'r targedau polisi newid hinsawdd hyn yn mynd i fod yn anodd. Ni ddylem amau hynny o gwbl, ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth ystyried yr ymrwymiadau hyn yn ddifeddwl. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny.
Yn ddiddorol, roeddwn i'n edrych ar y cloc yn gynharach ac roeddech chi'n sôn am gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—credaf fod hynny oddeutu wyth munud i mewn i'r araith. Cwestiwn sydd wedi ei godi'n aml yn y Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd yr wyf i wedi bod arno yw hwn: yn ystod y broses o bennu'r gyllideb, a yw deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r polisi hwnnw o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol yr amser, neu a ystyrir yn rhy aml ei fod yn cael ei gyflwyno fel ychwanegiad tuag at ddiwedd y broses? Dydw i ddim yn gwybod. Rwy'n awgrymu wrthych fy mod i'n credu bod angen i chi gyfiawnhau ymgynghori â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar bob cam o'r broses honno, oherwydd, fel yr arferai ein cyd-Aelod diweddar, Steffan Lewis, ei ddweud, beth yw diben deddfwriaeth fel hon, sy'n gosod agenda feiddgar iawn, ond mewn gwirionedd, pan ddaw'n fater o ymarferoldeb llunio polisi, nid yw'n cael ei gynnwys yno yn gynnar yn y broses? Felly mae angen ymdrin â hynny.
Beth am y gogledd? Nid fy sylw i yw hwn yn benodol heddiw, ond wrth gwrs, mae'r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, sef Lisa Nandy, hefyd wedi codi cwestiwn tebyg. Er bod y gyllideb yn amlinellu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer metro gogledd Cymru, sydd i'w groesawu, ac rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr o'r camau buddsoddi ar gyfer metro de Cymru, a chredaf fod momentwm da wedi ei ddechrau yn y fan honno, ond mae angen i ni weld hynny'n cael ei ddatblygu drwy bob rhan o'r de. Ac yn sicr mae angen i ni weld momentwm yn y gogledd, ac rwy'n credu bod cwestiwn yn y gogledd ynghylch pa un a yw hynny wedi bod yn digwydd.
Ni ddywedwyd dim, ar wahân i'r metro, am fuddsoddi mewn uwchraddio'r A55, sef anadl einioes economi'r gogledd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle sydd wedi ei wastraffu. Mae angen llwybr trafnidiaeth allweddol o borthladd Caergybi i Lannau Dyfrdwy; yr angen i hwnnw fod yn gwbl barod i ddosbarthu allforion o Iwerddon i weddill y DU nawr ein bod ni yn y cyfnod ar ôl Brexit. A chyda llaw, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn uwchraddio rhan o'r A55 i helpu i sbarduno economi'r gogledd yn ei blaen, felly, yn sicr, byddai arian Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn cael ei wario'n ddoeth. Nid yw'n arian cyfatebol, yn union, ond mae bron iawn yn cyflawni nod tebyg os yw Llywodraeth y DU yn mynd i ymrwymo arian fel yna.
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb rywfaint o gyllid ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, ac mae'r gyllideb yn amlinellu hyd yn oed fwy o arian—£4.8 miliwn, rwy'n credu i chi ei grybwyll, o gyfalaf trafodion ariannol mewn cysylltiad â'r gyllideb hon yn eich araith.