Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 4 Chwefror 2020.
O ganlyniad i hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y gyllideb ddrafft hon. Mi ddechreuodd hyn nôl ym mis Mehefin y llynedd pan gynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid cyn y gyllideb yn Aberystwyth. Dyna oedd sylfaen dadl a gynigwyd gan y Pwyllgor Cyllid yma yn y Siambr, a ddilynodd wedyn ym mis Medi'r llynedd, gan roi cyfle i'r Cynulliad drafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft.
Eleni, roedd hi'n arbennig o bwysig i gynnal dadl o'r fath o ystyried ansicrwydd amseriad arfaethedig y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y dylid hwyluso dadl fel hyn yn barhaol—hynny yw, bob blwyddyn—i roi cyfle i Aelodau ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau cyllideb yn gynharach yn y broses. Rŷm ni'n gobeithio'n fawr bod y Gweinidog yn cytuno â ni ac y gallwn ni weithio gyda hi i sicrhau y gellir cynnwys dadl fel hyn yn y broses graffu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, wrth gwrs, y bydd hi bellach yn cyhoeddi ei chyllideb ar 11 Mawrth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai rhagolygon macro-economaidd y Deyrnas Unedig effeithio ar refeniw'r trethi datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. Rŷm ni wedi argymell y dylid darparu'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl ar ôl cyllideb y Deyrnas Unedig. Deallwn y bydd angen adlewyrchu effaith cyllideb y Deyrnas Unedig yng nghyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddod â hyn ymlaen mor gynnar â phosibl, pe bai'r newidiadau yn helaeth.
Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni adolygu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb o £17 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac ar y cyfan—. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, bod hyn yn gynnydd o £593 miliwn ar gyllideb y llynedd: cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lledaenu'r cynnydd hwn ar draws pob adran. Fodd bynnag, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld dull ychydig mwy uchelgeisiol yn cael ei ddefnyddio i'w flaenoriaethu o ran canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thrawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
I symud at faes benthyca a threthiant, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu y bydd cynnydd mewn cyllidebau yn y dyfodol yn anghynaladwy heb fenthyca uwch neu gynnydd mewn trethiant. Rŷm ni'n credu hefyd y bydd angen newid strategaeth i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ei bod yn gwthio yn erbyn terfynau ei rheolau benthyca arian, ac wedi addo peidio â chodi treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rŷm ni fel pwyllgor wedi cefnogi gofyniad Llywodraeth Cymru am fwy o hyblygrwydd benthyca, ac yn amlwg bydd newidiadau mewn trethiant yn fater i bob plaid yn eu maniffestos wrth inni agosáu at etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Ym mis Ebrill y llynedd, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad ato fe yn sylwadau'r Gweinidog cyllid. Fodd bynnag, dyw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddim yn adlewyrchu ei datganiad ei hun o argyfwng hinsawdd. Er bod y gyllideb ddrafft yn neilltuo, fel y clywsom ni, dyraniad o £140 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi datgarboneiddio, dyw'r pwyllgor ddim yn argyhoeddedig bod gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth glir o'r effaith y mae ei phenderfyniadau yn ei chael ar allyriadau carbon na'r hinsawdd. Er ein bod ni'n croesawu'r dyraniad o £140 miliwn, mae'n siomedig na chymerwyd dull mwy radical i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Dyma'r bedwaredd cyllideb ddrafft i gael ei chyhoeddi, wrth gwrs, ers i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ddod i rym. Mae'r pwyllgor wedi defnyddio'r Ddeddf fel lens i asesu'r gyllideb ddrafft ers ei deddfu. O ran y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r Ddeddf yn ei phenderfyniadau ar gyfer 2020-21, fe ddywedodd swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrthym ni y bu, a dwi'n dyfynnu, newid gweladwy mewn perthynas â datgarboneiddio a gwariant ataliol. Fodd bynnag, a dwi'n dyfynnu ymhellach, roedd cryn dipyn o le i symud ymlaen o hyd, ac, gan ragweld adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig yn fuan, mae'r comisiynydd yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio hwn fel cyfle i wneud rhagor o benderfyniadau strategol, trawsnewidiol. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall integreiddio'r nodau llesiant yn well wrth gyflwyno cyllidebau yn y dyfodol i ddangos yn fwy cyson sut mae'r Ddeddf wedi ei hymgorffori yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau.
Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener diwethaf, mae ansicrwydd, wrth gwrs, o hyd ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae effaith Brexit yng Nghymru, gan gynnwys parhad cyllid a ddarparwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ran taliadau uniongyrchol i ffermwyr a busnesau eraill yn y sector pysgodfeydd ac amaethyddiaeth yn bryder mawr i'r pwyllgor.
Rŷn ni'n pryderu bod y cyfnod pontio hyd at ddiwedd Rhagfyr eleni, yn cynyddu'r risg na fydd cytundebau masnach ar waith. Yn yr amgylchiadau hyn, fe gredwn ni y byddai angen cymorth pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau'r effaith ar economi Cymru. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn cael cyllid gan yr Undeb Erwopeaidd drwy gronfeydd strwythurol a chymorth amaethyddol. Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu disodli'n llawn. Fodd bynnag, nid yw'r cytundeb pontio yn cynnwys cymorth amaethyddol ac mi fyddai'r pwyllgor yn croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu.
Mae'r pwyllgor yn croesawu cynnwys tlodi ym mlaenoriaethau'r gyllideb, ond mae'n credu bod diffyg eglurder yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, ei hamcanion a sut y bydd y gyllideb yn sbarduno gwelliant tymor hir, yn enwedig wrth fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi.
Mae angen gwneud rhagor i leihau tlodi yng Nghymru. Mae gormod o bobl mewn swyddi sgiliau isel a/neu gyflog isel. Mi fydd uwchsgilio’r gweithlu a chynyddu cyflogaeth o fudd i economi Cymru waeth beth fydd canlyniad Brexit. Dylai Llywodraeth Cymru felly werthuso ei buddsoddiad mewn rhaglenni i-mewn-i-waith a rhaglenni datblygu economaidd i sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian.
Dwi eisiau diolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma a'r rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad yn ogystal â'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Mae’r cyfan wedi bod o gymorth inni fel pwyllgor i lunio ein canfyddiadau. Dwi'n edrych ymlaen at weld ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad ni cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf. Diolch.