Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 4 Chwefror 2020.
Siaradaf heddiw fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Bob blwyddyn, rydym yn ystyried sut mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan y craffu ariannol y byddwn yn ei brif ffrydio i'n holl waith a bydd yn cael ei wneud gyda dull gweithredu hawliau plant yn ganolog iddo. Drwy gydol y Cynulliad hwn, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth glir am sut mae hi wedi asesu effaith ei phenderfyniadau ariannol ar blant a phobl ifanc. Nid yw hyn yn unig oherwydd ein bod ni'n credu y dylai Gweinidogion wneud hyn, mae oherwydd bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw asesu effaith eu penderfyniadau ar hawliau plant.
Y llynedd, buom yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgorau cyllid a chydraddoldeb i alw am welliannau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau o'r boblogaeth. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn dal i weithio ar roi ein hargymhellion ar waith, nid yw'r wybodaeth a ddaeth gyda'r gyllideb ddrafft eleni wedi gwneud unrhyw beth i dawelu ein pryderon hirsefydlog ynghylch sut y mae hawliau'r plentyn yn llywio penderfyniadau ariannol mor bwysig. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant unigol ar ei chyllideb ddrafft. Rydym yn credu bod hyn yn angenrheidiol tan y gallwn fod yn sicr bod yr asesiad integredig strategol o effaith yn dangos bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP wedi ei hystyried.
Gan droi yn awr at faterion penodol yn ein hadroddiad, nid oes gennyf amser i drafod popeth, felly canolbwyntiaf ar y meysydd sydd wedi eu hategu gan yr ymchwiliadau polisi manwl a gynhaliwyd gennym yn y Cynulliad hwn. Hoffwn ddechrau gyda chyllid ysgolion. Rydym wedi edrych ar hyn yn fanwl eto eleni. Rydym yn croesawu'r cynnydd yng nghyllid awdurdodau lleol yn setliad 2020-21, a'r ymrwymiad a roddwyd gan lywodraeth leol i'w ddefnyddio i flaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol. Er hynny, gwyddom o'n gwaith penodol yn y maes hwn fod pryderon difrifol, o fewn y sector ac ymhlith y cyhoedd, ynglŷn â chyllido ysgolion. O ganlyniad, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r cyllid hwn yn gadarn ac i ddangos i'r Cynulliad bod yr arian hwn, mewn gwirionedd, yn cyrraedd ein hysgolion.
Gan droi yn awr at y cwricwlwm newydd, o ystyried cynlluniau diwygio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, rydym yn croesawu'r dyraniadau a wnaed i ddarparu'r dysgu proffesiynol angenrheidiol i athrawon allu paratoi'n ddigonol. Rydym wedi dweud yn gyson bod yn rhaid mai'r gweithlu yw ein hased cryfaf os ydym am wneud y gorau o'r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r holl arian i gefnogi'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm yn ofalus. Credwn fod hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith mewn modd effeithiol.
Ni fydd yn peri syndod i'r Siambr hon glywed bod dyraniadau sy'n ymwneud â gweithredu ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn ganolbwynt allweddol i ni eleni. Mae dilyn yr arian sy'n berthnasol i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn her sylweddol i Aelodau a rhanddeiliaid fel ei gilydd, felly buom yn edrych arno mewn modd mor fanwl ag y gallem. Rydym yn croesawu'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried y symiau a fuddsoddwyd, gwelsom fod yr wybodaeth a oedd ar gael am sut y dylid mesur canlyniadau hyn yn ddiffygiol iawn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried sut y mae'n monitro cyllid yn y maes hwn.
Ym maes iechyd meddwl amenedigol, mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i ni alw am weithredu ar frys i gynnig darpariaeth arbenigol ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru. Rydym yn pryderu'n fawr nad oes unrhyw ffigur wedi ei nodi yn y gyllideb ddrafft o hyd ar gyfer y ddarpariaeth barhaol o unedau mamau a babanod yng Nghymru, heb sôn am uned wedi ei sefydlu. Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth dros dro yn cael ei ddatblygu, ond nid yw hyn hyd yn oed yn gweithredu eto. Mae'n rhaid i hyn newid, a byddwn yn mynd ar drywydd hyn yn drylwyr yn ystod y mis nesaf.
Yn olaf, ac yn bwysig iawn, trof at gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal. Fe'i dywedais yn y ddadl hon y llynedd ac fe'i dywedaf eto: plant sy'n derbyn gofal yw rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal. Wrth i ni graffu ar y gyllideb, clywsom na ofynnwyd i awdurdodau lleol gostio'r cynlluniau hyn. O ystyried y pwysau ar y gwasanaethau i blant, rydym o'r farn ei bod yn hanfodol cael syniad o'r costau cysylltiedig. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir eu cyflawni'n ddiogel ac yn fforddiadwy. Rydym yn unfryd yn ein barn bod yn rhaid i ddiogelwch plant a phobl ifanc fod yn hollbwysig mewn unrhyw gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal.
Mae ein hadroddiad yn crybwyll nifer o feysydd pwysig iawn eraill, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'n holl argymhellion cyn ein dadl ar y gyllideb ddrafft derfynol yn ddiweddarach y tymor hwn. Diolch.