Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 4 Chwefror 2020.
A gaf i groesawu'r ffaith fod gennym y cyfle i ddatblygu cyllideb Cymru ar gyfer 2020-21 er gwaethaf yr anawsterau a'r amgylchiadau yn ymwneud â'r broses hon eleni? Mae'r anawsterau hynny wedi cynnwys, fel y clywsom eisoes, yr amserlen ar gyfer pennu cyllideb eleni, gan ei gwneud yn llawer mwy heriol nag arfer i ACau y meinciau cefn yn enwedig i ddarparu craffu effeithiol. Rwy'n gwybod nad bai'r Llywodraeth hon yw hynny, ond mae'n werth ei nodi serch hynny. Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw bod llawer i'w groesawu yng nghyllideb eleni, yn enwedig y buddsoddiad parhaus yn y GIG yng Nghymru, a chynnydd sylweddol mewn cyllid i lywodraeth leol eleni, ac mae llawer o bethau y gallwn i roi sylwadau arnynt.
Fodd bynnag, hoffwn innau ychwanegu fy llais at yr un mater sy'n codi o'r gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodwyd gan y Cadeirydd, John Griffiths, ac a godwyd hefyd gan Jenny Rathbone a Mark Isherwood, ond sydd angen ei atgyfnerthu, sef y dyraniad yn y gyllideb ar gyfer y grant cymorth tai a'r llinell atal digartrefedd, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn statig eleni.
O ystyried y pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar fynd i'r afael â materion tai, mae'r agwedd hon ar y gyllideb sydd ger ein bron heddiw yn anffodus, a dweud y lleiaf. Fel eraill, rwy'n siŵr, rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun buddion y grant hwn a'r cyfeiriad polisi cyffredinol o ymdrin â digartrefedd a chefnogaeth mewn achosion o gam-drin domestig, er enghraifft. Ond rwyf hefyd yn gweld, o'r gwaith achos sy'n dod drwy fy swyddfa, mai dim ond crafu'r wyneb yr ydym ac, i asiantaethau sy'n ceisio darparu cymorth tai i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, mae'n mynd yn fwy o her flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mae'n ymddangos bod hyn wedi ei gadarnhau gan ddatganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw ar y nifer sy'n cysgu ar y stryd, sy'n dangos cynnydd o ryw 17 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i mi siarad mewn digwyddiad a oedd yn dathlu gwaith y prosiect Tai yn Gyntaf ym Merthyr Tudful, cynllun arloesol sy'n cael ei ddarparu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r math o gymorth sydd ei angen mewn prosiectau Tai yn Gyntaf yn ddwys ac mae'n ddrud. Dim ond pedwar neu bump o bobl y mae'r prosiect ym Merthyr yn gallu eu cefnogi, er ein bod yn gwybod bod yr angen yn fwy o lawer. Mae'r prosiect, fel pob prosiect o'r fath, yn gyfyngedig o ran amser ac yn dibynnu ar gyllid grant. Yn fy marn i, mae angen sicrwydd cyllid a'r sicrwydd o fwy o arian yn flynyddol ar wasanaethau tai hanfodol, boed hynny'n brosiectau Tai yn Gyntaf, llochesi i fenywod neu gymorth ar gyfer ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd, fel bod y prosiectau hyn yn gallu parhau i ymdopi â chostau darparu'r gwasanaethau.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn manylu ar y pryderon hynny a sut y gallai'r llinell gyllideb statig effeithio ar amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun. Felly, i ddyfynnu o adroddiad y pwyllgor,
'dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r arian sydd ar gael i ariannu cymorth tai a digartrefedd.'
Rwy'n gwybod bod y mater o dai ag atal digartrefedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein polisïau bob amser wedi bod yn arloesol mewn cymaint o ffyrdd, ond rwy'n disgwyl i'r Gweinidog fy sicrhau am ddau beth: yn gyntaf, bod y gwaith amhrisiadwy a wneir drwy'r llinell gyllideb hon, yr wyf wedi ei amlinellu'n fyr yn fy nghyfraniad, yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru; ac yn ail, pe byddai'r cyfle'n codi, yna bydd arian ychwanegol yn cael ei ddargyfeirio i ddiwallu anghenion sefydliadau yn y sector hwn, oherwydd yn erbyn cefndir o lai o gyllid, i lawr o £139 miliwn yn 2011-12 i £124 miliwn eleni, 2019-20, mae'n anodd gweld sut y gallwn ni adeiladu a datblygu'r gwasanaethau hyn y mae llawer o sefydliadau'n gweithio mor galed i'w darparu mewn amgylchiadau mor anodd, ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd hyn yn cael ei gadarnhau pan fydd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn adrodd yn ystod yr wythnosau nesaf.