Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 4 Chwefror 2020.
Nid wyf yn credu bod gennym—dyna'n union yw fy mhwynt. Credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o gyfranogiad o bob ochr i'r Siambr yn y materion hyn, a chredaf fod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu craffu ar waith y Llywodraeth mewn modd mwy dwys, gan edrych ar y blaenoriaethau cyffredinol yn hytrach na dim ond dadansoddi'r gyllideb linell wrth linell.