Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 4 Chwefror 2020.
Rydych chi'n dweud ei bod yn cael ei datblygu ar lefel y DU, nid yw'n cael ei datblygu ar lefel y DU, oherwydd bod y materion hyn wedi eu datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau. [Torri ar draws.] Ie, a Manceinion a Llundain i ryw raddau. [Torri ar draws.] A Jersey, iawn. Gallem ni fod yma am amser maith. Roedd i fod yn ymyriad yn hytrach nag yn araith. A ydych yn deall bod y materion hyn ym meddyliau ychydig o unigolion yn Whitehall a San Steffan yn unig?