Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 4 Chwefror 2020.
Ydw, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw, oherwydd gwnaeth gwaith Jones ddatgelu y bydd cynlluniau'r Llywodraeth i gael lleoedd ychwanegol mewn carchardai yn gweld Cymru'n dod yn fewnforiwr net o garcharorion. Yn syml, nid oes angen rhagor o garchardai arnom ni yng Nghymru, felly rydych yn llygad eich lle i herio'r ysgrifennydd cyfiawnder ar y pwynt hwnnw, ei fod yn dymuno adeiladu carchar arall.
Mae'r comisiwn ar gyfiawnder yn nodi bod y rhai hynny sy'n cael eu cyhuddo yn anghymesur yn fwy tebygol o ddod o grŵp du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Ac i fenywod, mae'r system bresennol yn waeth nag annigonol. Nid oes unrhyw gyfleusterau o gwbl ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru, ac efallai yn gysylltiedig â chyfiawnder menywod y mae angen dull iechyd cyhoeddus fwyaf. Yn ôl adroddiad Thomas, mae dros hanner y menywod sydd yn y carchar wedi eu treisio yn y cartref—hanner. Mae pum deg tri y cant wedi nodi eu bod wedi cael eu cam-drin yn emosiynol, yn gorfforol neu yn rhywiol pan oeddynt yn blant—53 y cant. Mae datganoli cyfiawnder i Gymru yn rhoi'r cyfle inni dorri'r cylch hwnnw drwy uno ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol â'n polisi cyfiawnder. Byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol hefyd yn ein galluogi ni i sicrhau bod rhaglenni tramgwyddwyr a dreialwyd yn dda ar gael yn llawn mewn carchardai ac o fewn timau cyhoeddus y gwasanaeth prawf i leihau'r risg o ailadrodd troseddau rhyw. Gallai newidiadau gael eu gwneud i arferion o fewn yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a system y llysoedd i fynd i'r afael â'r cyfraddau euogfarnu arswydus o isel am dreisio.
Daeth Thomas i'r casgliad mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ynghyd â phwerau gweithredol, a fydd yn goresgyn methiannau'r system bresennol. Gallwn greu system newydd sy'n gweithio, system sy'n rhydd o'r rhwymau patriarchaidd a misogynistaidd sy'n arwain at y fath gyfraddau euogfarnu am dreisio sy'n isel yn hanesyddol. Pam na fyddem ni eisiau gwneud hynny?
Yn olaf, rwy'n troi at gymorth cyfreithiol. Mae'r toriadau dwfn a wnaed i gymorth cyfreithiol yn 2012 wedi esgor ar anialwch cyngor, lle nad yw cyfiawnder i rai pobl ar gael o gwbl. Cyn y toriadau, roedd 31 o ddarparwyr cyngor ar fudd-daliadau a ariennir yn gyhoeddus; erbyn hyn dim ond tri sydd ar ôl. Mae nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol wedi gostwng 29 y cant, o'i gymharu ag 20 y cant yn Lloegr. Nid cyfiawnder yw hyn. Mae nifer cynyddol o bobl yn awr yn cynrychioli eu hunain mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, sy'n eu gadael dan anfantais sylweddol. Mae rhannau mawr o'r proffesiwn cyfreithiol wedi'u dinistrio, ac yn brawf o hynny y mae'r ffaith mai dim ond 68 o dymhorau prawf troseddol a hysbysebwyd yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Wasanaeth Erlyn y Goron yng nghylch eleni o geisiadau, a dim ond dau o'r rheini sydd yng Nghymru.
Yn yr amser a oedd gennyf—ac rwy'n sylweddoli fy mod wedi mynd dros amser—nid wyf ond wedi gallu cyffwrdd â materion cyfyngedig a godwyd yn adroddiad y comisiwn hwn, ond digon yw dweud nad yw'r system bresennol yn gweithio, yn amlwg. Dros gyfnod rhy hir, mae Cymru wedi goddef y cymhlethdodau sy'n achosi i bobl Cymru gael eu siomi'n systematig. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers amser ei bod yn bryd i Gymru gymryd cyfrifoldeb dros gyfiawnder ac inni fod â'n hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain. Gyda'r adroddiad hwn, gallwn alw ar y cyd am ddatganoli cyfiawnder, nid yn unig oherwydd ein bod yn credu yn yr egwyddor, ond oherwydd bod y dystiolaeth yn dangos bod gan hyn y cyfle i wella bywydau pobl yn y wlad hon yn sylweddol, a dylem wneud hynny.