Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 4 Chwefror 2020.
Fel yn achos eraill yn y ddadl hon, cyn dod i'r Cynulliad, cefais brofiad uniongyrchol o'r system cyfiawnder troseddol ar ôl bod yn gyfreithiwr mewn practis cymorth cyfreithiol yn ymdrin â chyfraith trosedd, ymysg materion eraill. Felly, mae gennyf brofiad uniongyrchol o weld pobl a gyhuddwyd yn fy swyddfa, mewn gorsafoedd heddlu, mewn carchardai ac, yn amlwg, yn eu cynrychioli yn y llys. Mae'n rhaid imi ddweud y byddwn i'n adleisio llawer o'r hyn yr wyf wedi'i glywed yma heddiw o ran beirniadaeth o'r system. Rwy'n credu ei bod yn anghynhyrchiol, yn gyfeiliornus ac, yn wir, yn anfoesol yn y modd y mae'n gweithredu. Dywedodd ein Prif Weinidog y byddem ni'n gwneud pethau, pe byddem yn cael datganoli, yn wahanol ac yn well, ac rwy'n gwbl argyhoeddedig mai dyna fyddai'r sefyllfa. Credaf y byddai, mewn gwirionedd, yn anodd peidio â gwneud pethau'n well na'r system bresennol, ac rwyf yn gwbl ffyddiog y byddem ni'n amlwg yn mynd ymhell y tu hwnt i'r ffon fesur honno o ran cyflwyno cyfiawnder troseddol yn wahanol yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod Leanne Wood wedi gwneud achos cryf iawn. Roeddwn i'n mynd i sôn am lawer o'r materion y soniodd Leanne amdanynt o ran pwy sy'n dioddef yn sgil diffygion a methiannau'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu, o ran dosbarth cymdeithasol, o ran ethnigrwydd, o ran rhyw, ein bod yn gweld pobl sy'n ddifreintiedig yn dioddef mwy o anfantais yn sgil y ffordd y mae'r system yn gweithredu. Rwy'n credu mai'r farn gyffredinol yw y gallem ni wneud yn well o lawer. Mae'n wallgof, onid yw, bod Cymru yn carcharu mwy o'i phobl na bron unrhyw ran arall o orllewin Ewrop? Yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw gwneud pobl yn greulon; mae'n difetha eu cyfleoedd mewn bywyd pan gânt eu carcharu'n ddiangen, mae'n arwain at fwy o ddioddefwyr troseddau oherwydd y creulondeb hwnnw a diffyg adsefydlu effeithiol o gofio cyflwr ein carchardai, sy'n orlawn ac mae'r bobl sydd yno yn ei chael yn anodd darparu gwasanaeth, yn ei chael yn anodd adsefydlu ac maen nhw'n gwneud hynny mewn amodau sy'n achosi llawer iawn o broblemau. Felly, nid yw'n ddim byd llai na stori arswyd a gallem ni wneud cymaint yn well. Byddai hynny o fudd i bobl a garcharwyd yn ddiangen, eu teuluoedd, ein cymunedau ac, wrth gwrs, dioddefwyr troseddau, oherwydd os nad yw pobl yn cael eu hadsefydlu'n briodol oherwydd na all y gwasanaeth weithredu o fewn yr amodau sy'n bodoli, yna bydd dioddefwyr troseddau yn y dyfodol a llawer iawn mwy o ddioddefwyr nag sydd angen.
Gwyddom hefyd, oni wyddom ni, fod gan lawer o'r bobl yn ein carchardai broblemau iechyd meddwl, bod ganddyn nhw broblemau camddefnyddio sylweddau—cyffuriau anghyfreithlon ac alcohol. Mae llawer ohonyn nhw'n anllythrennog ac yn anrhifog; mae eu sgiliau yn isel iawn. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael eu hesgeuluso gan y system, ac yna, mewn rhai achosion, yn peri mwy o drallod i gymdeithas yn gyffredinol oherwydd methiant y system honno.
Rwy'n credu, o ystyried y math hwnnw o gefndir, Llywydd, ei bod mewn gwirionedd yn anodd dychmygu system ddatganoledig na fyddai'n arwain at welliannau sylweddol ac ystyrlon iawn. Ac, wrth gwrs, mae achos cymhellol yn cael ei wneud gan y comisiwn ar gyfiawnder a'r Arglwydd Thomas o ran sut y gallem ni weithredu cymaint yn fwy effeithiol. Felly, rwy'n credu gyda'r cefndir hwnnw a'r hyn a glywsom gan y rhan fwyaf o'n cyfranwyr i'r ddadl hon heddiw, mae taer angen datganoli cyfiawnder arnom yng Nghymru. Os nad ydym am gyflawni hynny yn y tymor byr, yn wir, yna rydym yn mynd i weld y methiannau hyn yn cael eu hailadrodd yn ddiddiwedd gyda'r holl drallod a dioddefaint sy'n gysylltiedig ar gyfer ein cymunedau. Mae'r achos yn un cryf ac, fe ddywedwn i na ellir dadlau yn ei erbyn, ac rwy'n ddiamynedd iawn mewn gwirionedd, ac rwy'n gwybod bod llawer o rai eraill yma heddiw, Llywydd, eisiau gweld cynnydd o ran yr adroddiad hwn ac i weld gweithredu'r argymhellion, hyd yn oed os yw hynny y rhai sydd fwyaf cyflawnadwy ar unwaith yn y tymor byr, i'w dilyn gan ragor o gynnydd wedi hynny. Mae angen inni weld y newid hwn ac mae angen inni ei weld mor gyflym ag sy'n bosibl.