Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Chwefror 2020.
Yn sicr. Mae'r gyllideb yn nodi ein hymrwymiadau i gefnogi busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, drwy ein cefnogaeth i ardrethi busnes. Fe wyddoch, yng Nghymru, nad yw oddeutu hanner y busnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cymharu'n ffafriol iawn â’r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes ond oddeutu traean yn unig yn cael y lefel honno o gefnogaeth.