Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Chwefror 2020.
Weinidog, rydych yn llygad eich lle yn dweud bod nifer o fusnesau'n osgoi talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ymwelais â stryd fawr Cas-gwent yn ddiweddar, ac ar un stryd yno, ceir nifer o fusnesau nad ydynt yn talu ardrethi. Yn anffodus, ar yr un stryd, ceir busnesau hefyd sydd o faint tebyg iawn, ond mewn parth gwahanol o bosibl, sy'n gorfod talu ardrethi busnes uchel iawn o ystyried maint y busnes. Felly, a fyddech yn cytuno â mi bod dadl yma dros adolygu'r system gyfan i sicrhau ei bod yn decach?
Os edrychwch ar dreth drafodiadau tir ar gyfer eiddo anfasnachol dros £1 filiwn ac ardrethi busnes, ymddengys bod y rhain yn fwy na’n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr ar hyn o bryd—mater a godais ddoe. Felly, a wnewch chi ymrwymo i edrych eto ar ardrethi busnes? Maent yn dreth, i bob pwrpas, ac maent yn effeithio ar lawer o'n busnesau arbennig o fach, sy'n asgwrn cefn yr economi.