Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae blaenoriaethau ein Llywodraeth mewn perthynas â datgarboneiddio yn cael eu llywio i raddau helaeth gan y cyngor a gawn gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sydd, fel y dywedwch, yn cydnabod trafnidiaeth ochr yn ochr â thai fel y ddau faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud ymdrech ynddynt. Felly, fe welwch ein bod wedi buddsoddi £430 miliwn eisoes—wel, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf—ym metro de Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn dangos cryn ymrwymiad i leihau carbon.
Bydd trenau sy'n rhedeg ar reilffyrdd i'r gogledd allan o Gaerdydd yn drenau tyniant trydan 100 y cant, gyda'r trydan yn dod o ffynonellau cwbl adnewyddadwy. Ac mae'r gyllideb, yn amlwg, yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith ceir trydan, er fy mod yn sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y gwaith hwnnw.