Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Chwefror 2020.
Ac at hynny dwi am droi, achos ydych, mi ydych chi ar gyfnod cynnar iawn, iawn yn y buddsoddiad ddylai fod yn digwydd ar raddfa eang mewn rhwydwaith y wefru ar gyfer ceir trydan. Dwi'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn dadl yma yn Siambr y prynhawn yma ar sut i annog cerbydau trydan drwy'r drefn gynllunio. Ond yn ein cytundeb ar y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth eich Llywodraeth chi gytuno i gais Plaid Cymru i fuddsoddi £2 filiwn mewn rhwydwaith wefru genedlaethol gyhoeddus. A gafodd hwnnw ei wario ac ar beth?