Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â thwnnel Rhondda, a'ch cefnogaeth i'r gymdeithas. Mae fy ngŵr yn dod o Dynewydd, ac mae gennym deulu ym Mlaen-y-Cwm, felly edrychaf ymlaen yn fawr at allu beicio drwy dwnnel y Rhondda un diwrnod. Felly, yn sicr mae gennych fy nghefnogaeth i, ac mae gan y gymdeithas fy nghefnogaeth. Gwn fod trafodaethau, fel y dywedwch, yn mynd rhagddynt gyda Highways England, i ddeall yn well yr ased y byddem yn cymryd rheolaeth ohono, oherwydd, yn amlwg, mae angen i rywfaint o gyllid ddod gyda hynny, ac mae'r trafodaethau hynny’n parhau ar hyn o bryd. Credaf mai fy nghyd-Weinidog Lee Waters sy'n arwain y gwaith hwnnw, a byddaf yn sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny.FootnoteLink