Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:42, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd yn rhaid i mi roi sicrwydd i chi y byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fod yr arian hwnnw wedi’i wario, ond, fel rydym wedi trafod eisoes, rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghyd-Weinidogion fod angen iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Blaid Cymru ar y cynnydd tuag at yr eitemau hynny y cytunasom arnynt ar y cyd yn ein cyllideb, a byddaf yn ymdrechu i roi’r diweddariad hwnnw i chi.