Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae fy apêl i'n syml iawn: peidiwch â gwneud unrhyw beth yn eich cyllideb sy'n bygwth gwariant ar daclo digartrefedd. Mae'n rhaid ichi gynnal a chynyddu grantiau tai a Chefnogi Pobl ac ati oherwydd, y tu ôl i'r ystadegau digartrefedd, mae yna bobl go iawn. Efo calon drom, mi soniaf i am un ohonyn nhw. Mi wnaeth y crwner yr wythnos yma gadarnhau mai Paul Daniel Hughes oedd y dyn gafodd ei ganfod yn farw mewn hen adeilad gwag yn Llangefni fis diwethaf.