Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwy'n croesawu'r sylwadau gan y Gweinidog. Yn hwyr y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau ymarfer drafft y grantiau cymorth tai ar gyfer awdurdodau lleol, a gofynnai'r ymgynghoriad a oedd y trefniadau a nodir yn y canllawiau ymarfer yn addas at y diben, yn glir ac yn galluogi comisiynwyr a darparwyr i gyflawni pwrpas craidd y grant a darparu'r gwasanaethau cymorth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rhai y bwriadwyd y gwasanaeth ar eu cyfer.
Weinidog, a allwch chi roi gwybod i mi felly sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hidlo'r ymatebion er mwyn cynhyrchu'r ddogfen ganllawiau derfynol hollbwysig honno ym mis Ebrill? Ac a allwch chi ddweud wrthyf beth yw'r amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau terfynol? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu sefydlu’n effeithiol i gynorthwyo dinasyddion Cymru, a lle bo hynny'n bosibl, yn edrych ar wella a chynyddu'r grant hwn?