Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae ein cyllideb ddrafft yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru, gan gynnwys yng nghwm Rhondda. Rydym yn buddsoddi £284 miliwn yn Rhondda Cynon Taf drwy fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; £2.7 miliwn yn y gwaith o ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg, ac mae'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn darparu gwasanaethau gwell.