Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd, a diolch, Llyr Huws Gruffydd, am gyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer y ddadl fer. Gwn fod gennych ddiddordeb ers amser maith yn y maes hwn o'r byd amaeth.
Mae ffermydd awdurdodau lleol yn ased pwysig i'r diwydiant amaethyddol ac yn parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i lawer o bobl ifanc yma yng Nghymru. Yng nghyd-destun ehangach yr holl dir amaethyddol yng Nghymru, elfen fach ydynt, dim ond 1 y cant o dir amaethyddol Cymru. Ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r economi sylfaenol ym mhob rhan o Gymru.
Bob blwyddyn, rwy'n cyhoeddi adroddiad, fel rhan o fy nyletswydd statudol o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar weithgareddau Llywodraeth Cymru, a gweithgareddau awdurdodau lleol, mewn perthynas â mân-ddaliadau yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth ystadegol am y maes a nifer y mân-ddaliadau sy'n eiddo i awdurdodau lleol. Roedd yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-18 ac mae'n dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn berchen ar ychydig dros 13,600 hectar o dir at ddibenion mân-ddaliadau, a hwnnw wedi'i rannu'n 963 o fân-ddaliadau. Felly, nid yw nifer y mân-ddaliadau wedi newid yn sylweddol ers 2009-10, pan oedd yna 967 o fân-ddaliadau. Yr hyn sydd wedi newid yw cyfanswm yr arwynebedd tir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac a osodir fel mân-ddaliadau. Felly, yn 2010, cafodd tua 7,700 hectar o dir ei osod at y diben hwn. Golyga hyn fod gostyngiad o tua 23 y cant yn y tir a neilltuwyd ar gyfer mân-ddaliadau awdurdodau lleol rhwng 2010 a 2018.
Er bod hwn yn ostyngiad sylweddol, hoffwn dynnu sylw at yr hyn y mae'r ffigurau'n ei olygu i'r cwestiwn canolog ynglŷn â sut rydym yn annog newydd-ddyfodiaid i mewn i'r byd amaeth. Rhoddwyd mwyafrif y tenantiaethau awdurdod lleol newydd yn 2018 i denantiaid presennol. O'r 169 o denantiaethau newydd a roddwyd, dim ond 21 a aeth i newydd-ddyfodiaid, tra bod 148 wedi'u rhoi i denantiaid presennol. Yn 2018, roedd 61 y cant o fân-ddaliadau awdurdodau lleol o dan 20 hectar o faint ac ni ellid disgwyl i ffermydd bach o'r fath ddarparu cynhaliaeth ariannol ddigonol i ffermwyr ac felly, nid ydynt yn cynnig y llwybr gorau i mewn i'r sector ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Yn y pen draw, mater i'r awdurdodau lleol yng Nghymru yw rheoli'r ffermydd hyn. Nid yw Deddf Amaethyddiaeth 1970 yn rhoi rheolaeth i Weinidogion dros bwerau'r awdurdodau lleol i werthu tir. Mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw gwerthu tir a phenderfynu sut i fynd ati ac nid yw'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ymyrryd ynddo na chwarae rhan ynddo.
Mae dod o hyd i ffordd i mewn i ffermio, a chyfeiriodd Llyr Huws Gruffydd at hyn, yn gallu bod yn frawychus os nad ydych chi neu'ch partner yn dod o deulu sy'n ffermio neu os nad yw'r fferm deuluol yn ddigon mawr i gynnal newydd-ddyfodiad. Mae cefnogi pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant a datblygu eu gyrfaoedd yn hanfodol ac yn rhywbeth rwyf wedi bod â diddordeb personol ynddo ers i mi ddod i'r swydd. Os ydym yn mynd i gyflwyno arloesedd, egni a brwdfrydedd i'r sector ac ymateb i heriau'r dyfodol, mae ffermydd awdurdodau lleol yn llwybr pwysig a chyfyngedig i mewn i amaethyddiaeth.
Fel rhan o Gynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a wnaed gyda chyllid y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn cytundeb ar y gyllideb ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaethom sicrhau bod £6 miliwn ar gael i gynorthwyo pobl ifanc i fynd i mewn i'r sector amaethyddol a sefydlu busnesau proffidiol a gwydn. Darparwyd y cyllid dros ddwy flynedd ar ffurf cyfalaf gweithio, a fydd yn cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid fuddsoddi yn eu busnes. Talodd am amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys technoleg ac arferion newydd i wella effeithlonrwydd, neu ddatblygu mentrau newydd a ffrydiau incwm i feithrin cadernid yn y busnes. Ac yn ogystal â'r datblygiadau hyn, roedd gofyn i ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth a chymryd camau cadarnhaol tuag at sicrhau buddiannau cadarnhaol i'r amgylchedd naturiol, gan gefnogi amaethyddiaeth carbon isel ac iechyd anifeiliaid.
Hefyd, mae gennym raglen Mentro, sef gwasanaeth a sefydlwyd i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n dymuno camu'n ôl o ffermio llawn amser gyda newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am lwybr i mewn i'r diwydiant, ac mae creu'r cynllun yn adeiladu ar argymhellion y genhedlaeth nesaf o ran cymorth ffermio.
Mewn perthynas â nifer y ffermydd sy'n eiddo i awdurdodau lleol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parchu gallu awdurdodau lleol i ddatblygu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y modd y maent yn rheoli'r asedau y maent yn gyfrifol amdanynt ar ran y cymunedau a gynrychiolant. Rwy'n credu y dylem ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol, a rhwng awdurdodau, yn hytrach na cheisio lleihau'r hyblygrwydd sydd gan awdurdodau lleol i weithredu er mwyn cyflawni blaenoriaethau lleol, a chyfeiriodd Llyr at sawl agwedd, rwy'n meddwl, y gallwn edrych arnynt i wneud hynny.
Rwy'n credu bod cyfleoedd yn bodoli i gydweithredu o'r newydd mewn perthynas â'r modd y defnyddiwn y tir yn y sector cyhoeddus na fyddai'n galw am ddeddfwriaeth newydd na gosod cyfyngiadau newydd ar awdurdodau lleol. Cafwyd cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, ynglŷn â chreu is-adran tir Llywodraeth Cymru—ymdrech gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus i newid y ffordd rydym yn rheoli tir y sector cyhoeddus er mwyn cryfhau'r modd y cyflawnir ein blaenoriaethau strategol, gan gynnwys cefnogi camau i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
Felly, hoffwn annog yr Aelodau'n gryf i ymddiddori yn y fenter hon gan ei bod yn amlwg yn gyfle sy'n uniongyrchol berthnasol i'r drafodaeth rydym yn ei chael heddiw. Ond fel rwy'n dweud, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i archwilio'r syniadau a gyflwynodd Llyr yn y ddadl hon. Diolch.