– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae'r ddadl fer i'w chynnal nawr. Felly, gall Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel ac yn gyflym, cyn i fi alw Llyr Gruffydd i gyflwyno ei ddadl fer. Felly, dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw ef.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd cynghorau Cymru yn eiddo ar bron i 1,000 o ffermydd cyngor, ffermydd a oedd yn cael eu gosod allan, wrth gwrs, ac yn cynnig cyfle i newydd-ddyfodiaid i gael i mewn i'r diwydiant amaeth. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd gennym ni yn dangos bod cynghorau sydd—ac mae rhywun yn cydnabod hyn—o dan bwysau ariannol yn sgil llymder wedi bod yn gwerthu'r asedau hynny i ffwrdd, ac yn aml iawn, fel rŷn ni'n cydnabod, er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus craidd. Ond dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae dros 1,000 hectar o dir wedi ei werthu gan y cynghorau, a hynny am gyfanswm o bron i £28 miliwn. Mae yna bellach lai na 500 o ffermydd gydag adeiladau allanol trwy Gymru, a does yna ddim arwydd bod y gyfradd sy'n cael ei gwaredu yn lleihau na'n arafu chwaith.
Mae'r sefyllfa, mae'n debyg, hyd yn oed yn waeth yn Lloegr. Mae hanner tir fferm cynghorau yno wedi cael ei werthu dros y ddegawd diwethaf, ac mae nifer o gynghorau yno yn gweld eu ffermydd fel pethau sy'n perthyn i'r gorffennol. Mae'r cyfuniad tocsig yna, o lymder ac amharodrwydd ar ran rhai cynghorau i fod yn fwy creadigol ac i arloesi er mwyn datblygu ffrwd incwm newydd neu fodelau busnes newydd, yn gyrru'r dirywiad sy'n cael ei weld mewn ffermydd cyngor. Felly, pam bod hyn yn bwysig?
Pam y mae hyn yn bwysig? Wel, efallai y byddwch yn dweud bod 16,000 hectar o dir yn ddibwys fel rhan o'r darlun mawr, ond rwyf am gyflwyno'r achos dros ei arwyddocâd yn sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermio yng Nghymru.
Cafodd ffermydd a oedd yn eiddo i'r cyngor eu datblygu dros ganrif yn ôl er mwyn galluogi pobl heb gysylltiadau ffermio neu dir i weithio ym maes amaethyddiaeth. Nawr, buaswn yn dadlau bod mwy o'u hangen heddiw nag erioed, yn enwedig gan ein bod yn gweld poblogaeth ffermio sy'n heneiddio, gydag oedran cyfartalog ffermwyr Cymru dros 60, ac amgylchiadau eraill yn cynllwynio i'w gwneud hyd yn oed yn anos i'n cenhedlaeth iau weithio ar y tir.
Felly, mae'r ffermydd cyngor hyn yn cynnig cyfle unigryw i'r rhai sy'n awyddus i droi at y byd amaeth. A heb ddifrïo'r rhai sydd â blynyddoedd lawer o brofiad mewn unrhyw ffordd, mae'n bwysig bob amser i unrhyw ddiwydiant neu sector ganiatáu i waed newydd ddod i mewn gyda syniadau ffres a safbwyntiau newydd. Heb arloesi a newid, byddai amaethyddiaeth, fel unrhyw sector arall, yn aros yn ei unfan.
Dylid cofio hefyd fod cymhellion economaidd i gynghorau hefyd, gan fod y rhent o ffermydd sirol yn cyfrannu at falansau'r cyngor. Gwnaeth cynghorau ledled Cymru warged net o £2.7 miliwn y llynedd i helpu i gydbwyso cyllidebau a diogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae ffermydd cyngor cynhyrchiol a ffyniannus yn fuddiol, nid yn unig o safbwynt ariannol, ond maent yn sicrhau cymaint o fanteision mwy cyffredinol i gymunedau cyfan.
Felly, gadewch i ni roi ein ffermydd cyngor ar waith mewn ffordd lawer mwy creadigol. Beth am daro partneriaeth rhwng cynghorau a cholegau amaethyddol i ddefnyddio ffermydd cyngor fel cyfle i'r disgleiriaf a'r gorau o'n cenhedlaeth nesaf yn y byd ffermio i amaethu'r tir, ar y ddealltwriaeth eu bod yn arloesi a'u bod yn profi ac yn treialu systemau a dulliau ffermio newydd fel rhan o'r fargen. Gadewch inni feddwl o'r newydd a hyrwyddo arferion gorau yn y system. Gadewch inni roi ein hystâd o ffermydd cyhoeddus ar waith er mwyn y gymdeithas ehangach, nid i'r unigolion sy'n ffermio yn unig.
A pham ei gadael ar hynny? Mae angen i sefydliadau eraill fod yn rhan o'r drafodaeth hon ac yn rhan o'r mudiad ehangach hwn. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn ei wneud yn Llyndy Isaf. Prynwyd y fferm gan yr ymddiriedolaeth tua 10 mlynedd yn ôl bellach. Ers hynny, gan weithio gyda chlybiau ffermwyr ifanc Cymru, mae olyniaeth o ffermwyr ifanc wedi cael bwrsariaeth i wneud i'r fferm weithio mewn ffordd fodern a chynaliadwy. Mae ffermio cadwriaethol yn rhan lawn mor bwysig o'r cynllun hwn ag y mae cynhyrchu bwyd, sy'n cyd-fynd i raddau helaeth â'n dyheadau ar gyfer y sector. Mae'n gyfle gwych i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed gael cyfle i reoli fferm a dysgu am y busnes, gyda chymorth a chyngor mentoriaid sydd wrth law i helpu os oes angen. Nawr, roedd hwnnw'n benderfyniad bwriadol gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i roi ei ased ar waith yn y ffordd arbennig honno.
Felly, fy her heddiw yw i ni alluogi cynghorau i roi'r gorau i edrych ar ffermydd cyngor fel ateb cyflym i'w problemau ariannol. Gadewch i ni fabwysiadu'r safbwynt mwy hirdymor, mwy cynaliadwy. Gadewch inni wneud i'r ystâd o ffermydd cyhoeddus weithio'n llawer mwy creadigol ar ran y gymdeithas. Os ydym o ddifrif ynghylch dyfodol y Gymru wledig, a sicrhau bod pobl ifanc yn gallu byw a gweithio mewn cymunedau gwledig, a bod ein diwydiant ffermio'n addas i'r diben ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain, rhaid inni ddweud 'na' wrth amcanion tymor byr. Onid dyna yw holl bwynt Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Onid dyna pam ein bod ni fel deddfwrfa wedi gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol i'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru?
Ni ddylem adael i'r ffermydd cyngor hyn ddiflannu o un i un heb ystyried yr hyn rydym yn ei golli. Dylem wneud popeth a allwn i gynorthwyo cynghorau lleol i allu gwrthsefyll y modd y caiff asedau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol—pedwar conglfaen datblygu cynaliadwy yng Nghymru—mor bwysig eu gwerthu am y nesaf peth i ddim. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw dod â'r holl chwaraewyr at ei gilydd i ystyried sut y gallwn fynd ati, nid yn unig i atal ein hystâd o ffermydd cyhoeddus rhag cael ei cholli, ond i'w throi'n ased sy'n cyflawni ar ran ein cymunedau gwledig a'n cymdeithas ehangach ledled Cymru.
Felly, gyda hyn i gyd mewn cof, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, i fwrw iddi'n weithredol ar hyn a dod â'r holl chwaraewyr at ei gilydd i fynd i'r afael â'r mater. Dylai ffermydd sy'n eiddo i'r cyhoedd fod yn rhan o fudiad ehangach i sicrhau bod gennym ddiwydiant ffermio cynaliadwy wrth galon ein cymunedau gwledig. Mae gwerthu ein ffermydd yn ddi-baid yn ateb tymor byr i gynghorau sydd o dan bwysau, ond rhaid inni sefyll yn ei erbyn.
Mae angen ein cefnogaeth ar genedlaethau'r dyfodol sydd am roi eu troed ar ris yr ysgol ffermio. Dyna pam y gweithiais gyda'r rheini sy'n ceisio cadw ffermydd fel Trecadwgan yn eiddo cyhoeddus. Fferm gyngor yw hon sydd mewn perygl o ddod i ben ei hoes fel fferm fyw, weithredol a chael ei gwaredu fel ased gan Gyngor Sir Penfro. Mae gan Drecadwgan botensial i fod yn fodel ar gyfer y dyfodol, gan arallgyfeirio'n fferm gymunedol. Ffermydd yw'r rheini sy'n cyfuno amaethyddiaeth yn llwyddiannus â meysydd fel iechyd a gofal, gweithgareddau diwylliannol, dysgu gydol oes, creu swyddi, a busnesau crefftwyr. Gall y rhain fod yn anadl einioes i gymunedau gwledig, gan ychwanegu at eu cynaliadwyedd, ac wrth gwrs at les eu pobl.
Nawr, rwy'n ddigon pragmatig i dderbyn y gall fod amgylchiadau penodol yn pennu mai gwerthu fferm gyngor yw'r unig ddewis ymarferol. Ar ôl rhoi cynnig ar bopeth arall, os mai gwerthu yw'r unig ddewis sydd ar ôl, gadewch inni sicrhau mai cymunedau lleol sy'n cael y cynnig cyntaf, a gadewch inni wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar y cymunedau hynny i wneud hwnnw'n bosibilrwydd realistig ac ymarferol. Efallai y cymer ychydig yn hwy nag a wnâi fel arall ac efallai na fydd yn cynhyrchu cymaint o arian ar y cychwyn ag y byddai cynghorau'n dymuno, ond yn y tymor hwy byddai'n gwneud cymaint mwy ac yn rhoi cymaint mwy o werth i'r gymuned a'r cyngor, o'i gymharu â gwerthiant cyflym. Dylai Llywodraeth Cymru a chynghorau ddysgu o esiampl fferm Trecadwgan a sicrhau bod pob cymuned yn cael cyfle i chwarae ei rhan pan fydd y cyfleoedd hyn yn codi.
Mae'r rheini sy'n ymladd dros Drecadwgan wedi cyhoeddi rhestr o newidiadau polisi angenrheidiol sy'n deillio o'u brwydr. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar yr awgrymiadau hynny. Un o'r rhain yw y dylai Llywodraeth Cymru greu grŵp adolygu diwygio tir, tebyg i'r un sy'n gweithredu yn yr Alban, gyda briff i archwilio: i ba raddau y gall diffyg mynediad at dir dagu dyheadau a chyfleoedd pobl; yr effeithiau ar gyflogaeth a'r economi wledig yn deillio o hynny; a ffyrdd y gellid ac y dylid gwella mynediad at dir—tir gwledig a threfol, gyda llaw. Maent hefyd wedi galw am adolygiad o Orchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) i roi llawer mwy o bwyslais ar fuddiannau cenedlaethau'r dyfodol, yn hytrach na dim ond y pris gorau yn y sefyllfaoedd hyn.
Mae angen inni ystyried cronfa cyfoeth cymunedol genedlaethol hefyd, fel y gallwn helpu i gaffael tir ffermio er mwyn i'r gymuned fod yn berchen arno. Yn ogystal, mae galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno banc tir amaethyddol i Gymru—banc ariannol. Yn ogystal â darparu benthyciadau llog isel a di-log i newydd-ddyfodiaid, gallai'r banc tir hwn ddarparu cyllid i gymunedau sydd am brynu tir a ffermydd, gan gynnwys ffermydd sirol. Hefyd, gallai helpu awdurdodau lleol i brynu tir newydd i dyfu'r ystâd o ffermydd sirol. Nawr, mae'r rhain i gyd yn gynigion ymarferol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am y mathau hyn o awgrymiadau.
Nid yw'r llwybr presennol o werthu ffermydd cyngor yn dderbyniol. Yr hyn sy'n llai derbyniol byth, wrth gwrs, yw'r diffyg gweithredu a welwn gan Lywodraeth Cymru, a ddylai fod yn helpu ac yn gweithio gyda chynghorau i ddiogelu'r ased pwysig hwn, a hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd mwyaf, nid yn unig i'r sector, ond i'r gymdeithas ehangach. Mae diogelu ein tir, ein hamgylchedd, ein pobl a'n diwylliant i gyd yn rhan o gael gweledigaeth ac uchelgais ar gyfer ein ffermydd cyhoeddus.
Fe ddylai diflaniad ffermydd cyngor fod yn destun gofid i gymdeithas gyfan. Mae'n droedle pwysig iawn i mewn i'r diwydiant i waed newydd a chenhedlaeth newydd o amaethwyr. Da chi, Weinidog, peidiwch ag eistedd ar eich dwylo; gweithiwch gyda'r cynghorau, nid yn unig i amddiffyn yr hyn sydd ar ôl, ond i weithio tuag at greu ystâd fferm gyhoeddus a fydd yn cyffroi y genhedlaeth nesaf i fod eisiau ffermio. Trowch nhw i mewn i rywbeth sy'n cynrychioli cyfle, mentergarwch ac arloesedd. Mae yna gyfle, trwy ein ffermydd cyngor ni, i yrru ac i greu twf yn y sector. Ond ar hyn o bryd, wrth gwrs, beth rŷn ni yn ei weld yw rheoli dirywiad. Mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth i newid hynny, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau bod yr un cyfle gan genedlaethau'r dyfodol ag sydd wedi bod gan genedlaethau'r gorffennol.
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd, a diolch, Llyr Huws Gruffydd, am gyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer y ddadl fer. Gwn fod gennych ddiddordeb ers amser maith yn y maes hwn o'r byd amaeth.
Mae ffermydd awdurdodau lleol yn ased pwysig i'r diwydiant amaethyddol ac yn parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i lawer o bobl ifanc yma yng Nghymru. Yng nghyd-destun ehangach yr holl dir amaethyddol yng Nghymru, elfen fach ydynt, dim ond 1 y cant o dir amaethyddol Cymru. Ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r economi sylfaenol ym mhob rhan o Gymru.
Bob blwyddyn, rwy'n cyhoeddi adroddiad, fel rhan o fy nyletswydd statudol o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar weithgareddau Llywodraeth Cymru, a gweithgareddau awdurdodau lleol, mewn perthynas â mân-ddaliadau yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth ystadegol am y maes a nifer y mân-ddaliadau sy'n eiddo i awdurdodau lleol. Roedd yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2017-18 ac mae'n dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn berchen ar ychydig dros 13,600 hectar o dir at ddibenion mân-ddaliadau, a hwnnw wedi'i rannu'n 963 o fân-ddaliadau. Felly, nid yw nifer y mân-ddaliadau wedi newid yn sylweddol ers 2009-10, pan oedd yna 967 o fân-ddaliadau. Yr hyn sydd wedi newid yw cyfanswm yr arwynebedd tir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac a osodir fel mân-ddaliadau. Felly, yn 2010, cafodd tua 7,700 hectar o dir ei osod at y diben hwn. Golyga hyn fod gostyngiad o tua 23 y cant yn y tir a neilltuwyd ar gyfer mân-ddaliadau awdurdodau lleol rhwng 2010 a 2018.
Er bod hwn yn ostyngiad sylweddol, hoffwn dynnu sylw at yr hyn y mae'r ffigurau'n ei olygu i'r cwestiwn canolog ynglŷn â sut rydym yn annog newydd-ddyfodiaid i mewn i'r byd amaeth. Rhoddwyd mwyafrif y tenantiaethau awdurdod lleol newydd yn 2018 i denantiaid presennol. O'r 169 o denantiaethau newydd a roddwyd, dim ond 21 a aeth i newydd-ddyfodiaid, tra bod 148 wedi'u rhoi i denantiaid presennol. Yn 2018, roedd 61 y cant o fân-ddaliadau awdurdodau lleol o dan 20 hectar o faint ac ni ellid disgwyl i ffermydd bach o'r fath ddarparu cynhaliaeth ariannol ddigonol i ffermwyr ac felly, nid ydynt yn cynnig y llwybr gorau i mewn i'r sector ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Yn y pen draw, mater i'r awdurdodau lleol yng Nghymru yw rheoli'r ffermydd hyn. Nid yw Deddf Amaethyddiaeth 1970 yn rhoi rheolaeth i Weinidogion dros bwerau'r awdurdodau lleol i werthu tir. Mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw gwerthu tir a phenderfynu sut i fynd ati ac nid yw'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ymyrryd ynddo na chwarae rhan ynddo.
Mae dod o hyd i ffordd i mewn i ffermio, a chyfeiriodd Llyr Huws Gruffydd at hyn, yn gallu bod yn frawychus os nad ydych chi neu'ch partner yn dod o deulu sy'n ffermio neu os nad yw'r fferm deuluol yn ddigon mawr i gynnal newydd-ddyfodiad. Mae cefnogi pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant a datblygu eu gyrfaoedd yn hanfodol ac yn rhywbeth rwyf wedi bod â diddordeb personol ynddo ers i mi ddod i'r swydd. Os ydym yn mynd i gyflwyno arloesedd, egni a brwdfrydedd i'r sector ac ymateb i heriau'r dyfodol, mae ffermydd awdurdodau lleol yn llwybr pwysig a chyfyngedig i mewn i amaethyddiaeth.
Fel rhan o Gynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a wnaed gyda chyllid y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn cytundeb ar y gyllideb ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaethom sicrhau bod £6 miliwn ar gael i gynorthwyo pobl ifanc i fynd i mewn i'r sector amaethyddol a sefydlu busnesau proffidiol a gwydn. Darparwyd y cyllid dros ddwy flynedd ar ffurf cyfalaf gweithio, a fydd yn cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid fuddsoddi yn eu busnes. Talodd am amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys technoleg ac arferion newydd i wella effeithlonrwydd, neu ddatblygu mentrau newydd a ffrydiau incwm i feithrin cadernid yn y busnes. Ac yn ogystal â'r datblygiadau hyn, roedd gofyn i ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth a chymryd camau cadarnhaol tuag at sicrhau buddiannau cadarnhaol i'r amgylchedd naturiol, gan gefnogi amaethyddiaeth carbon isel ac iechyd anifeiliaid.
Hefyd, mae gennym raglen Mentro, sef gwasanaeth a sefydlwyd i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n dymuno camu'n ôl o ffermio llawn amser gyda newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am lwybr i mewn i'r diwydiant, ac mae creu'r cynllun yn adeiladu ar argymhellion y genhedlaeth nesaf o ran cymorth ffermio.
Mewn perthynas â nifer y ffermydd sy'n eiddo i awdurdodau lleol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parchu gallu awdurdodau lleol i ddatblygu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y modd y maent yn rheoli'r asedau y maent yn gyfrifol amdanynt ar ran y cymunedau a gynrychiolant. Rwy'n credu y dylem ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol, a rhwng awdurdodau, yn hytrach na cheisio lleihau'r hyblygrwydd sydd gan awdurdodau lleol i weithredu er mwyn cyflawni blaenoriaethau lleol, a chyfeiriodd Llyr at sawl agwedd, rwy'n meddwl, y gallwn edrych arnynt i wneud hynny.
Rwy'n credu bod cyfleoedd yn bodoli i gydweithredu o'r newydd mewn perthynas â'r modd y defnyddiwn y tir yn y sector cyhoeddus na fyddai'n galw am ddeddfwriaeth newydd na gosod cyfyngiadau newydd ar awdurdodau lleol. Cafwyd cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, ynglŷn â chreu is-adran tir Llywodraeth Cymru—ymdrech gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus i newid y ffordd rydym yn rheoli tir y sector cyhoeddus er mwyn cryfhau'r modd y cyflawnir ein blaenoriaethau strategol, gan gynnwys cefnogi camau i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
Felly, hoffwn annog yr Aelodau'n gryf i ymddiddori yn y fenter hon gan ei bod yn amlwg yn gyfle sy'n uniongyrchol berthnasol i'r drafodaeth rydym yn ei chael heddiw. Ond fel rwy'n dweud, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i archwilio'r syniadau a gyflwynodd Llyr yn y ddadl hon. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog, a dyna ni'n dod â thrafodion y dydd i ben.