Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaethpwyd yn anffurfiol—fel y gall ei wneud fel yr Aelod etholaeth dros Wrecsam—gan Lesley Griffiths. Felly, mae gennym ni bellach gynghrair o Griffithiaid. [Chwerthin.]
Cyfrifoldeb perchnogion y Cae Ras yw dyfodol y Cae Ras, ac os oes unrhyw gynigion mewn unrhyw ran o Gymru ar gyfer datblygu gweithgaredd chwaraeon pellach, gan gynnwys pêl-droed a chwaraeon eraill, byddem yn hapus iawn i'w drafod, gyda Chwaraeon Cymru wrth gwrs, fel ein prif gorff ar gyfer y mater hwn.
Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol fel Llywodraeth Cymru ym mharc Colliers, oherwydd dyna'r math o gyfleuster roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau ei weld yn Wrecsam i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. A chawn ein harwain yn fawr, nid gan uchelgeisiau gwleidyddion yn yr achos hwn, ond gan fuddiannau ein cyrff chwaraeon.