Cyfleusterau Diogel i Sefyll Mewn Stadia Pêl-Droed

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:21, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Cae Ras yn Wrecsam, gogledd Cymru, yn cael ei gydnabod gan Guinness World Records fel y stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd sy'n dal i gynnal gemau rhyngwladol, ar ôl cynnal gêm gartref ryngwladol gyntaf Cymru ym 1877. Ddirprwy Weinidog, mae llawer o gyd-Aelodau o ogledd Cymru ac ar bob ochr i'r Siambr hon wedi cydnabod yr angen i ddatblygu a buddsoddi yn y stadiwm, ac rwy'n cydnabod gwaith Llyr Gruffydd yn arbennig. [Torri ar draws.] Ymddiheuriadau. Gan gadw diogelwch gwylwyr sy'n sefyll mewn cof, Ddirprwy Weinidog, byddai hon yn ffordd berffaith o ddatblygu ac uwchraddio'r stadiwm gan gadw naws hanesyddol y maes ar yr un pryd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth y gallem weithio arno ar bob ochr i ddarparu stadiwm chwaraeon ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yng ngogledd Cymru?