Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n sylweddoli eich bod chi a minnau wedi cael trafodaethau ar hyn o'r blaen, a'ch bod wedi ymateb drwy lythyr gweinidogol yn nodi na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailgyflwyno hynny. Mae'n ffaith, serch hynny, yn yr etholiad cyffredinol diweddar ar gyfer San Steffan, fod tair plaid—y Rhyddfrydwyr, y Blaid Lafur a'r blaid lywodraethol, y Blaid Geidwadol—wedi cynnwys hwn fel ymrwymiad maniffesto. Ac mae Nigel Adams, y Gweinidog chwaraeon, bellach wedi cael adroddiad ar yr union bwnc hwn. A gaf fi eich annog, Weinidog, i ymgysylltu â'r Gweinidog chwaraeon yn San Steffan fel nad yw stadia Cymru yn cael eu gadael ar ôl? Mae gennym dimau, fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, sy'n chwarae yng nghynghrair pêl-droed Lloegr, ac mae'n bwysig, o safbwynt y Llywodraeth, a allai gynnig cymorth neu beidio, ein bod yn rhan o'r negodiadau a'r trafodaethau hynny, fel nad yw stadia yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl pan fydd y cynnig yn cael ei weithredu yn San Steffan.