Cyfleusterau Diogel i Sefyll Mewn Stadia Pêl-Droed

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:20, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rydym yn cadw llygad manwl ar y datblygiadau yn y maes hwn yn adran chwaraeon Llywodraeth y DU, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gyfundrefn bresennol yn sicrhau mai'r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon, fel yr awdurdod trwyddedu, sy'n gyfrifol am adael gwylwyr i mewn i feysydd pêl-droed, sy'n cynnwys pob maes pêl-droed yn y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair a chynghrair pêl-droed Lloegr ynghyd â stadiwm Wembley a stadiwm Principality. Yn amlwg, lle mae timau Cymru'n chwarae yn y cynghreiriau hynny, cânt eu cynnwys pan fyddant mewn stadia yn Lloegr; o dan y ddeddfwriaeth hon, byddant yn cael eu cynnwys.