Gwledydd Tramor Sydd â Dinasyddion a Phobl yn Byw yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:45, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae nifer o ffyrdd o ymgysylltu'n rhyngwladol. Ers ymgymryd â'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â llysgenhadon o dramor yng Nghaerdydd ac yn Llundain, ac mae gan lawer ohonynt nifer fawr o ddinasyddion yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda'r dirprwy lysgennad a'r gymuned Tsieineaidd yma yng Nghymru.