Gwledydd Tramor Sydd â Dinasyddion a Phobl yn Byw yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:46, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am hynny. Ychydig cyn y Nadolig, cefais y pleser o ymuno â hwyl yr ŵyl fel gwestai ym mharti Nadolig y ganolfan gymorth integreiddio Bwylaidd yn Wrecsam, ac rwyf wedi cael gwahoddiad i'w Diwrnod Treftadaeth Bwylaidd ar 9 Mai. Yn 2017, cyflwynodd llysgenhadaeth Gwlad Pwyl yn Llundain Ddiwrnod Treftadaeth Bwylaidd i'r calendr o ddigwyddiadau rheolaidd ledled y DU, gyda dros 40 o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yn wreiddiol, gyda chefnogaeth swyddfeydd consyliaid Pwylaidd yn Llundain, Manceinion a Chaeredin. Pa gysylltiad, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru â'r agenda hon hyd yn hyn, ac os nad oes cysylltiad, a fyddai gennych ddiddordeb mewn ymgysylltu?