Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Chwefror 2020.
Wel, o gastell Caergwrle i Lyfrgell Gladstone, o brosiect Enbarr Shotton Point i waith gwych Fforwm Treftadaeth Gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys Cymdeithas Bwcle, Quay Watermen's Association, Cymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a'r Cylch, Grŵp Hanes Saltney a Saltney Ferry a llawer mwy, mae gan Alun a Glannau Dyfrdwy lawer i'w gynnig i ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Pa ymgysylltiad sydd gennych neu y bwriadwch ei gael gyda grŵp anhygoel Twristiaeth Gogledd Cymru, a'i frand Go North Wales, sydd efallai'n arwain y ffordd ar waith i hyrwyddo, nid yn unig Alun a Glannau Dyfrdwy, ond y rhanbarth ehangach i'r byd o'n cwmpas?