Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch. Wel, rwy'n gobeithio bod y ffaith bod y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi ymweld â chi yn Shotton yn dyst i'r ffaith eu bod yn tanlinellu pwysigrwydd y sector hwn yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae gennym yng Nghymru rywbeth i'w werthu i'r byd. Rydym yn gwneud gwaith arloesol iawn, a chredaf fod lle inni hyrwyddo hynny. Felly, un o'r pethau rwy'n ceisio ei wneud yw trefnu bod neges fisol yn cael ei hanfon i lysgenadaethau o gwmpas y byd sy'n dweud, 'Dyma'r thema yr hoffem i chi ei hyrwyddo eleni neu'r mis hwn', a chredaf y byddai'n ddefnyddiol iawn, efallai, inni ystyried sut y gallem wneud hynny yng nghyd-destun dur, felly mae hynny'n sicr—. Ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio hefyd fod Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, a sonnir yn benodol am y ganolfan honno yn y strategaeth fel un o'r prosiectau magned i annog pobl i ddod i ogledd Cymru i fuddsoddi.