Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 5 Chwefror 2020.
Wel, cyn i mi ymateb, roeddwn am fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i un o gynghorwyr Abertawe, Sybil Crouch, a fu farw'n ddiweddar. Gwn fod llawer o gyfeillion a chyd-Aelodau yn y lle hwn ac ar draws y wlad yn ei pharchu'n fawr. Sybil oedd y fenyw gyntaf, a hyd yn hyn, yr unig fenyw i gadeirio Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn berson y gellid yn hawdd ei disgrifio fel arweinydd ym myd celfyddyd a diwylliant, nid yn unig yn y de-orllewin, ond ar draws Cymru gyfan. Rwyf wedi gweld teyrngedau'n llifo i mewn yn canmol ei chyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Cymru. Cysegrodd Sybil ei bywyd i guradu pethau rhyfeddol ar gyfer y wlad hon, a hoffwn gofnodi ein diolch ar ran Llywodraeth Cymru.
Ond i ateb eich cwestiwn, mae'r strategaeth ryngwladol newydd a'r cynllun gweithredu twristiaeth yn egluro ein hymrwymiad i gefnogi a buddsoddi mewn digwyddiadau rhyngwladol a digwyddiadau Cymreig, gan gynnwys digwyddiadau busnes, ac i ddenu a datblygu digwyddiadau sy'n hyrwyddo twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys de-orllewin Cymru.