2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2020.
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio digwyddiadau mawr i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55052
Wel, cyn i mi ymateb, roeddwn am fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i un o gynghorwyr Abertawe, Sybil Crouch, a fu farw'n ddiweddar. Gwn fod llawer o gyfeillion a chyd-Aelodau yn y lle hwn ac ar draws y wlad yn ei pharchu'n fawr. Sybil oedd y fenyw gyntaf, a hyd yn hyn, yr unig fenyw i gadeirio Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn berson y gellid yn hawdd ei disgrifio fel arweinydd ym myd celfyddyd a diwylliant, nid yn unig yn y de-orllewin, ond ar draws Cymru gyfan. Rwyf wedi gweld teyrngedau'n llifo i mewn yn canmol ei chyfraniad i wleidyddiaeth a diwylliant Cymru. Cysegrodd Sybil ei bywyd i guradu pethau rhyfeddol ar gyfer y wlad hon, a hoffwn gofnodi ein diolch ar ran Llywodraeth Cymru.
Ond i ateb eich cwestiwn, mae'r strategaeth ryngwladol newydd a'r cynllun gweithredu twristiaeth yn egluro ein hymrwymiad i gefnogi a buddsoddi mewn digwyddiadau rhyngwladol a digwyddiadau Cymreig, gan gynnwys digwyddiadau busnes, ac i ddenu a datblygu digwyddiadau sy'n hyrwyddo twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys de-orllewin Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru'n datblygu fel cyrchfan twristiaeth, ac yn 2017, amcangyfrifir bod trosiant Cymru yn £4.8 biliwn. Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi fy rhanbarth, gan fod yno harddwch Gŵyr a thref glan môr Porthcawl. Mae'n ymddangos nad yw Stadiwm Liberty yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol ac nid yw'n gweld yr un nifer o wyliau chwaraeon a cherddoriaeth a welwn yng Nghaerdydd o bosibl. Felly, Weinidog, sut y bwriadwch fanteisio ar harddwch ein gwlad drwy gynnal digwyddiadau mwy o faint y tu allan i Gaerdydd a fydd yn hybu twf economaidd yng Ngorllewin De Cymru?
Diolch. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol fod y strategaeth dwristiaeth newydd wedi'i lansio erbyn hyn, a gwn fod digwyddiadau mawr yn rhan o'r strategaeth honno. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad o ddigwyddiadau mawr ac rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych ar rai o'r materion hyn yn y cyd-destun hwnnw, oherwydd rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol yw ein bod yn gyson yn aros i bobl gyflwyno syniadau i ni, ac weithiau, rwy'n credu bod angen i ni annog pobl mewn ardaloedd penodol i gynnig syniadau ar gyfer digwyddiadau mawr. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol dros y blynyddoedd, ond yn amlwg, mae yna bot o arian na allwn ond ei ddefnyddio unwaith. Felly, y peth allweddol, rwy'n credu, yw i bobl feddwl am syniadau creadigol iawn o ran yr hyn y credant y bydd yn denu mwy o bobl i'r ardal ac yn dod â'r refeniw ychwanegol angenrheidiol hwnnw sydd mor hanfodol i ddatblygu ein cymunedau.
Mae dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ymwneud â chodi hyder economaidd yn fy rhanbarth i a thu hwnt, ond law yn llaw â hynny, mae'r awdurdod lleol yn Abertawe yn ceisio adfywio canol y ddinas, gan gynnwys adeiladu arena ddigidol newydd yn Abertawe. Felly, gyda'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, mae hyn yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mawr ar draws de Cymru, ond yn arbennig yn fy rhanbarth i. Felly, a allwch chi ddweud sut y bydd strategaeth dwristiaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf darpariaeth llety o ansawdd newydd ac wedi'i adnewyddu i ymwelwyr o fewn pellter hygyrch i'r arena newydd hon? Diolch.
Wel, rwy'n credu, mewn perthynas â'r strategaeth dwristiaeth, ei bod yn well cyfeirio'r cwestiwn at fy nghyd-Weinidog. Gwn fod rhywfaint o wariant cyfalaf ychwanegol eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n creu rhai cyfleoedd. Ond yn sicr, o ran yr arena ddigidol a phrosiectau eraill yn yr ardal honno, un o'r pethau y byddwch yn ei weld yn y strategaeth ryngwladol yw rhestr yn yr atodiad o'r holl brosiectau magned rydym yn ceisio'u defnyddio fel dulliau o ddenu pobl i ardaloedd ar hyd a lled Cymru. Ac yn sicr, siaradais â chyngor Abertawe am yr hyn y byddent eisiau ei weld o ran y math o fagnedau a fyddai'n denu pobl i'r ardal ar gyfer buddsoddi ymhellach.