Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 5 Chwefror 2020.
Ac yn olaf, soniodd y strategaeth hefyd am lwyddiant diweddar Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan o ran hyrwyddo, ac rwy'n dyfynnu:
'sectorau technoleg a digidol, creadigol, gofal iechyd ac uwch-weithgynhyrchu Cymru'.
Felly, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i hyrwyddo Cymru fel lle i ymweld ag ef ac fel lle i gydweithredu ar ddiwylliant yng nghyd-destun Japan yn awr, yn enwedig o gofio'r diddordeb mawr yn Japan ym mhob peth Cymreig? A fyddech, er enghraifft, yn ystyried gwahodd llysgennad Japan i'r Eisteddfod? A chan feddwl am y fenter chwaraeon fawr nesaf, sef y pêl-droed—Ewro 2020 yr haf hwn—wrth i Gymru orymdeithio i'r rowndiau terfynol ac ennill y gystadleuaeth honno, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru yn sgil y llwyddiant disgwyliedig hwnnw?