2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 5 Chwefror 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, neithiwr, roedd y ddwy ohonom ni mewn digwyddiad ColegauCymru i ddysgu mwy am ganlyniadau Cymraeg Gwaith. Unwaith eto, roedd sgiliau cudd wedi cael eu cydnabod, nid yn unig o fewn y gweithlu, ond yn y corff myfyrwyr hefyd. Mae'r mwyafrif mawr o ddarlithwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yn nodi, yn eu barn nhw eu hunain, nad oes ganddyn nhw unrhyw sgiliau Cymraeg neu sgiliau ail iaith sylfaenol, gan ddweud eu bod yn well ganddyn nhw astudio drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, sy'n siomedig.
Bydd bron yr holl fyfyrwyr a phrentisiaid hynny wedi bod mewn ysgolion yng Nghymru, a byddai'r Gymraeg wedi bod yn elfen orfodol o'u haddysg. Felly, rwy'n croesawu cynllun y coleg Cymraeg ar gyfer addysg bellach a phrentisiaethau, a gwaith presennol Cymraeg Gwaith, ond mae ffordd bell i fynd i oresgyn effeithiau system addysg ac amgylchedd gwaith sy'n creu Cymro neu Gymraes swil. Sut y byddwch chi'n mesur llwyddiant y cynllun addysg bellach a phrentisiaethau, a pha mor hir fydd tymor hir?
Diolch yn fawr. Roedd hi'n dda i'ch gweld chi yn y cyfarfod yna neithiwr. Dwi yn meddwl bod yna broblem gyda ni gyda llawer o bobl sydd wedi bod trwy addysg cyfrwng Cymraeg sydd ddim gyda'r hyder efallai i ddefnyddio'r iaith, yn arbennig yn y colegau addysg bellach. A dyna pam mae'r grŵp yma mor hanfodol, dwi'n meddwl, ein bod ni yn cael coleg Cymraeg, sydd yn annog pobl i ddefnyddio'r iaith. Ond, hefyd, un o'r pethau maen nhw wedi gwneud yw creu llysgenhadon i geisio cael pobl yr un oedran â'r myfyrwyr i roi'r neges eu hunain. A dwi yn meddwl bod hwnna'n hynod o bwysig, ac yn gam ymlaen.
Un o'r pethau mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n gwybod pwy sydd yn gallu siarad rywfaint o Gymraeg, ac un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yn y maes addysg, er enghraifft, yw ein bod ni wedi ymgymryd â chyfrifiad blynyddol nawr i sicrhau ein bod ni'n gwybod pwy yn y maes addysg sy'n siarad Cymraeg sydd efallai yn dysgu mewn ysgolion sydd ddim yn Gymraeg iaith gyntaf. Felly, dwi yn meddwl efallai, yn y pen draw, y bydd angen inni wneud hynny yn y colegau addysg bellach yma.
Dwi yn meddwl bod Cymraeg Gwaith—mae e'n brosiect eithaf newydd o hyd, felly rŷn ni jest yn dechrau mas ar y daith yma, ond mae'r adborth rŷn ni wedi cael yn bositif tu hwnt, a dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni roi ychydig mwy o amser i weld beth yw'r effaith, ac a oes rhywbeth sydd angen i ni ei wneud i wella ar y ffordd rŷn ni'n ymgymryd â'r gwaith yma. Ond beth rŷn ni wedi gwneud i ddechrau yw i ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle ni'n gwybod bod yr iaith Gymraeg yn hollol hanfodol, fel ym meysydd gofal a gofal plant.
Diolch am yr ymateb yna. Yn bersonol, rwy'n croesawu'r syniad o lysgenhadon, yn arbennig gan mai syniad y Ceidwadwyr Cymraeg oedd hwnnw, i'w cael nhw yn y gweithle. Felly, os yw e'n gweithio ym maes addysg bellach, mae'n mynd i fod yn beth da. Dwi'n derbyn beth ddywedoch chi ynglŷn â sut i fwrw ymlaen gyda hynny, ond un o elfennau craidd y cynllun yw sicrhau digon o staff dwyieithog i addysgu ledled Cymru ym mhob pwnc sy'n flaenoriaeth ar gyfer datblygu, fel rŷch chi wedi dweud. Ond mae'r coleg Cymraeg yn galw am raglen datblygu staff genedlaethol i gefnogi addysgu dwyieithog dros y tymor canolig.
Mae'ch cynllun chi yn nodi bod angen 300 o athrawon ysgol uwchradd ychwanegol i ddysgu Cymraeg fel pwnc, a 500 arall i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn y flwyddyn nesaf i fod ar y trywydd iawn am 2050. Mae'n glir na fydd hynny yn digwydd. Felly, mae'n annhebygol y bydd myfyrwyr a darlithwyr y dyfodol yn cael profiad gwahanol, ystyrlon eu Cymraeg ar ôl gadael ysgol i fynd i'r coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth. Mae 18 o diwtoriaid y coleg Cymraeg yn cyflwyno Cymraeg Gwaith, felly sut y gallwch ddisgwyl i addysg bellach a'r coleg Cymraeg gyflwyno rhaglen genedlaethol a thrawsnewid darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 pan fydd staff a myfyrwyr yn dod i mewn i'r system honno heb ddim gwell sgiliau nag sydd ganddynt yn awr?
Diolch. Yn amlwg, mae hwn yn rhywbeth sydd yn sialens i ni. A dwi'n meddwl fod e'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Bydd diddordeb gen i i ddarllen y strategaeth mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi'i lansio amser cinio i weld beth maen nhw yn rhagweld yw'r ffordd orau ymlaen. Ond dwi yn meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni yn gwneud beth rŷn ni'n gallu i gynyddu'r niferoedd sydd yn ymwneud ag addysg, ac rŷn ni yn cymryd camau penodol iawn.
Dwi wedi sôn am y cyfrifiad blynyddol yn y gweithle. Mae rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon nawr yn cynnwys 25 awr o Gymraeg, ac mae hwnna yn gam ymlaen. Mae gyda ni Iaith Athrawon Yfory; mae cymhelliant o £5,000 i annog pobl i weithredu ac i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cynllun sabothol hefyd. Mae gennym ni waith o ran cydweithredu â'r consortia rhanbarthol. Mae gennym ni bob math o gamau rŷn ni eisoes yn eu gwneud. Mae tua 15 o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gymryd y camau yma ymlaen. Dwi ddim yn meddwl mai un peth yw e, a dyna pam rŷn ni'n manteisio ar y cyfle. A bydd pob un o'r rhain, wrth gwrs, yn bwydo i mewn, dwi'n meddwl, yn y pen draw, i faint o bobl sydd ar gael i weithredu yn y maes addysg bellach hefyd.
Wel, diolch am yr ymateb, ond mae'r cwestiwn yn dal i fod yna: faint o amser yw'r tymor canolig a'r tymor hir?
Dwi jest eisiau dod i ben gyda hyn: neithiwr, roeddem yn siarad am y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a'r ffaith bod sgiliau iaith Gymraeg wedi bod yn thema sy'n dod lan drwyddyn nhw, sydd wedi dod i sylw. Os dwi'n deall yn iawn, byddwn yn disgwyl hynny—wel, byddwn i'n disgwyl hynny—gan y sector cyhoeddus, wrth gwrs, oherwydd safonau, ond rwy'n gwybod bod swyddogion Cymraeg i fusnes yn cydnabod yr angen i normaleiddio'r Gymraeg mewn rhannau o'r sector preifat hefyd. Dwi wedi gofyn am hyn o'r blaen, ond beth yw'r pwyslais mae'r partneriaethau sgiliau yn ei roi ar hyn?
Diolch. Jest i orffen y pwynt blaenorol, dwi'n meddwl ein bod ni'n debygol o gyrraedd y targedau ar addysg gynradd. Dwi'n gobeithio y bydd cyfrifiad blynyddol y gweithlu yma efallai yn caniatáu inni weld a fydd hi'n bosibl i symud pobl sydd efallai ddim yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i symud i mewn i feysydd lle byddan nhw yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn rhaid inni weld beth mae'r cyfrifiad yna yn ei ddweud.
O ran Cymraeg i fusnes—a diolch am eich diddordeb chi yn hwn—dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni wneud lot mwy o ran y partneriaethau, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo bod rhywbeth gyda nhw i'w gynnig, a'u bod nhw'n cymryd yr awenau. Felly, o ran busnes, does dim safonau gyda ni yn y sector preifat, ar y cyfan, ond dwi'n meddwl efallai y gallwn ni edrych mwy ar y llysgenhadon roeddech chi'n sôn amdanynt. Os yw hwnna'n gweithio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, efallai y tu hwnt i beth rŷn ni'n ei wneud gyda'r 12 o bobl yma sydd gyda ni—swyddogion yn mynd o gwmpas y wlad, yn rhoi cyngor i bobl—efallai y byddan nhw yn gallu helpu i weld pwy fydd yn gallu bod yn champions drosom ni.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych yn nodi yn eich strategaeth ryngwladol, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o 21 o swyddfeydd dros y môr mewn 12 o wledydd'.
A wnewch chi felly gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer y swyddfeydd hyn, a nodi ble'n union y mae angen datblygu ein presenoldeb?
Diolch. Mae gennym 21 o swyddfeydd ledled y byd. Mae ganddynt dargedau sefydledig. Nid wyf yn credu bod angen strategaethau arnynt i gyd, ond mae gennym rywun sy'n rheoli'r swyddfeydd hynny'n ganolog yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae pob swyddfa'n mynd i fod ychydig yn wahanol, oherwydd gallai'r hyn a wnawn yn Tsieina fod yn wahanol iawn i'r hyn sydd angen inni ei wneud yn yr Almaen. Felly, mae angen addasu pob un o'r swyddfeydd ac mae angen iddynt fod ychydig bach yn wahanol i'w gilydd. Bellach, rydym yn adrodd beth yw'r gweithgareddau hynny i'r pwyllgor sy'n monitro'r gwaith a wnawn yn yr adran.
Mae eich strategaeth yn mynd ymlaen i ddweud y byddwch yn codi proffil Cymru drwy weithio gyda Chymry alltud, cynfyfyrwyr a sefydliadau partner o Gymru, gan ganolbwyntio yn y flwyddyn gyntaf ar UDA a Japan, a nodi Cymry dylanwadol o gwmpas y byd. Dywedwch hefyd y byddwch yn creu cronfa ddata gynhwysfawr o gysylltiadau Cymreig, gyda'r nod o greu 500,000 o gysylltiadau mewn pum mlynedd. Fodd bynnag, nid yw'r strategaeth ryngwladol yn ymhelaethu ar beth yn union y byddwch yn ei wneud â'r cysylltiadau hynny ar ôl iddynt gael eu ffurfio. Er enghraifft, a fyddwch yn edrych ar drefniadau gefeillio? Fe gofiwch fod yna daith fasnach gan fentrau prifysgol a busnes o dalaith Oklahoma yma y llynedd. Ac a gaf fi ddweud, mae fy mab ieuengaf yn byw yn Oklahoma—rwy'n adnabod y dalaith yn dda. Ac roeddent eisiau trefniant gefeillio: Dinas Oklahoma gyda Chaerdydd, a'u hail ddinas, Tulsa, gydag Abertawe. A oes cynlluniau i awgrymu'r math hwnnw o beth? A hefyd, er enghraifft, a fyddech yn barod i edrych, yng nghyd-destun UDA unwaith eto, ar gydweithio ar lefel talaith, gyda Wisconsin dyweder? Ers talwm, roedd gan Wisconsin 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith. Roedd llif enfawr o Gymry wedi mynd yno bryd hynny, ac i Ohio a thalaith Efrog Newydd. Felly, Pennsylvania—enwch un o daleithiau UDA ac mae'r 1.8 miliwn o bobl o dras Gymreig yno wedi'u gwasgaru ym mhobman. Felly, a ydych yn ystyried meithrin cydweithrediad ar lefel talaith hefyd?
Rwy'n credu mai'r peth pwysig mewn perthynas â Chymry alltud yn gyntaf oll yw ein bod wedi comisiynu rhywfaint o waith ar hyn, oherwydd mae yna lawer o bobl sy'n weithgar yn y maes hwn eisoes, a'r her i ni yw sut y gallwn eu hannog i gydweithredu a gweithio gyda'i gilydd fel nad ydynt yn cystadlu ac fel ei bod yn hawdd i bobl yng Nghymru a thramor ddeall lle mae'r platfform gorau. Felly, rydym wedi comisiynu rhywfaint o waith ar hynny ac rydym yn aros i hwnnw ddod yn ôl.
Ond o fewn y strategaeth ar gyfer Cymry alltud, rwy'n credu y bydd gwahanol lefelau i'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud. Felly, efallai y gallem ddefnyddio rhai Cymry enwog iawn i godi llais ar ran Cymru a byddai hynny'n rhywbeth mawr ynddo'i hun i godi ein proffil. Rwy'n canolbwyntio ar yr economi hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd yna strategaeth glir iawn ar gyfer y Cymry alltud mewn perthynas â sut rydym yn llywio'r economi ac efallai mai dyna sut y gallem helpu cwmnïau yng Nghymru i gysylltu â Chymry alltud dramor neu hyd yn oed siambrau masnach neu beth bynnag—unrhyw gymorth y gallant ei gael, os ydynt eisiau allforio. A'r un peth gyda mewnfuddsoddi, efallai y gallwn ddefnyddio hynny fel cyfrwng. Rwy'n credu y bydd angen llawer o adnoddau ar gyfer hynny. Pe baem yn mynd ymhellach tuag at yr hyn roeddech yn sôn amdano, byddai hynny'n galw am swm enfawr o adnoddau ychwanegol. Ac a bod yn onest, nid wyf yn credu bod gennym y capasiti yn yr adran i wneud y math yna o beth. Ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio creu platfform lle gall pobl fwrw ymlaen â hynny eu hunain, yn hytrach na gorfod mynd yn ôl ac ymlaen at y Llywodraeth o hyd. Mae'n rhaid i hon fod yn strategaeth sy'n eiddo i bobl Cymru hefyd.
Ac yn olaf, soniodd y strategaeth hefyd am lwyddiant diweddar Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan o ran hyrwyddo, ac rwy'n dyfynnu:
'sectorau technoleg a digidol, creadigol, gofal iechyd ac uwch-weithgynhyrchu Cymru'.
Felly, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i hyrwyddo Cymru fel lle i ymweld ag ef ac fel lle i gydweithredu ar ddiwylliant yng nghyd-destun Japan yn awr, yn enwedig o gofio'r diddordeb mawr yn Japan ym mhob peth Cymreig? A fyddech, er enghraifft, yn ystyried gwahodd llysgennad Japan i'r Eisteddfod? A chan feddwl am y fenter chwaraeon fawr nesaf, sef y pêl-droed—Ewro 2020 yr haf hwn—wrth i Gymru orymdeithio i'r rowndiau terfynol ac ennill y gystadleuaeth honno, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru yn sgil y llwyddiant disgwyliedig hwnnw?
Diolch yn fawr iawn. Fel y mae'n digwydd, y bore yma, bûm mewn cyfarfod, gyda fy nghyd-Weinidog, i drafod sut y gallwn glymu'r asedau diwylliannol a chwaraeon sydd gennym yng Nghymru, a sut y gallwn ddefnyddio'r rheini i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol. Felly, roedd hwnnw'n gyfarfod pwysig.
Rhan o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw gweld sut y gallwn weithio'n dda fel tîm Cymru ac adeiladu a gweithio gyda'n gilydd. Yn sicr, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi gwybod i ni heddiw eu bod yn agored iawn i weithio gyda ni mewn perthynas â chwpan Ewrop. Rwy'n credu y byddai gennym fwy o ddiddordeb mewn hyrwyddo ein hunain yn yr Eidal nag yn Azerbaijan, os ydym yn onest, felly mae'n rhaid inni feddwl beth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Roedd yn ddiddorol cael trafodaeth gyda llysgennad Prydain yn yr Eidal dros y penwythnos, sy'n digwydd bod yn dod o Gymru, ac sy'n awyddus iawn i'n helpu. Felly, byddwn yn gweithio ar raglen debyg i'r hyn a wnaethom yn Japan, gobeithio.
Ar ben hynny, un o'r enghreifftiau a roddwyd y bore yma yw bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gobeithio gwneud arddangosfa yn Japan yn 2022, ac rwy'n credu mai dyna beth y dylem fod yn edrych arno: beth yw'r fframwaith hirdymor y gallwn edrych arno? Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cynllunio gwaith oddeutu tair blynedd ymlaen llaw. Os ydym yn gwybod hynny, a allwn ni adeiladu taith fasnach o amgylch hynny? Felly, mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau'r gorau i dîm Cymru, ond mae angen ychydig o gydlynu ar hynny a dyna roeddem yn dechrau ei drafod y bore yma.
Ac o ran gwahodd pobl yma, mae llysgennad Japan yn dod i Gymru yn fuan iawn ond ar ben hynny, un o'r prosiectau a drefnwyd gennym eleni yw ein bod yn gwahodd llysgenhadon i'r Gelli Gandryll ar gyfer yr ŵyl lenyddiaeth. Felly, hwnnw fydd ein hymgais gyntaf i ddod â llysgenhadon yma ar gyfer digwyddiad diwylliannol, lle cawn gyfle i werthu Cymru yn sgil hynny. Mae'n debyg ei bod yn werth sôn hefyd fod llysgennad yr Almaen yn dod i Gymru yr wythnos nesaf, ac mae hwnnw'n ymweliad gwirioneddol bwysig i ni o ran pwysleisio mai'r Almaen yw ein prif farchnad allforio.
Mae cwestiwn 3 [OAQ55051] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 4, Mark Isherwood.