Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi i Tata Steel yn fy etholaeth yr wythnos ddiwethaf, ac roedd yn wych clywed yr ymrwymiad sydd gan y rheini sydd ar frig Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur, ac mae'n rhaid dweud bod hynny'n wahanol i Lywodraeth San Steffan—Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Nawr, mae Tata Steel yn arwain y ffordd o ran arloesi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion dur, yn enwedig ar safle Shotton, ac mae arbenigedd y safle hwnnw'n golygu mai hwy yw'r unig gynhyrchydd yn Ewrop a all ddarparu cynnyrch uwch tair haen ar y tro. Mae'r warant a ddaw gyda'r cynnyrch hwn yn eu galluogi i'w werthu i bob cwr o'r byd, gan gynnwys India, Chile, Periw, Awstralia a ledled Ewrop. Weinidog, beth all y strategaeth ryngwladol ei wneud i hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud ar safle gwaith dur Shotton, a hefyd i hyrwyddo dur Cymru am yr hyn ydyw—sef y gorau un?