Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:39, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae eich strategaeth yn mynd ymlaen i ddweud y byddwch yn codi proffil Cymru drwy weithio gyda Chymry alltud, cynfyfyrwyr a sefydliadau partner o Gymru, gan ganolbwyntio yn y flwyddyn gyntaf ar UDA a Japan, a nodi Cymry dylanwadol o gwmpas y byd. Dywedwch hefyd y byddwch yn creu cronfa ddata gynhwysfawr o gysylltiadau Cymreig, gyda'r nod o greu 500,000 o gysylltiadau mewn pum mlynedd. Fodd bynnag, nid yw'r strategaeth ryngwladol yn ymhelaethu ar beth yn union y byddwch yn ei wneud â'r cysylltiadau hynny ar ôl iddynt gael eu ffurfio. Er enghraifft, a fyddwch yn edrych ar drefniadau gefeillio? Fe gofiwch fod yna daith fasnach gan fentrau prifysgol a busnes o dalaith Oklahoma yma y llynedd. Ac a gaf fi ddweud, mae fy mab ieuengaf yn byw yn Oklahoma—rwy'n adnabod y dalaith yn dda. Ac roeddent eisiau trefniant gefeillio: Dinas Oklahoma gyda Chaerdydd, a'u hail ddinas, Tulsa, gydag Abertawe. A oes cynlluniau i awgrymu'r math hwnnw o beth? A hefyd, er enghraifft, a fyddech yn barod i edrych, yng nghyd-destun UDA unwaith eto, ar gydweithio ar lefel talaith, gyda Wisconsin dyweder? Ers talwm, roedd gan Wisconsin 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith. Roedd llif enfawr o Gymry wedi mynd yno bryd hynny, ac i Ohio a thalaith Efrog Newydd. Felly, Pennsylvania—enwch un o daleithiau UDA ac mae'r 1.8 miliwn o bobl o dras Gymreig yno wedi'u gwasgaru ym mhobman. Felly, a ydych yn ystyried meithrin cydweithrediad ar lefel talaith hefyd?