Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. I ddilyn cwestiwn Dai Lloyd yn gynharach, a wnaiff y Gweinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol cael cytundeb masnach cynnar gyda'r Unol Daleithiau, lle mae gennym Lywodraeth sydd o blaid Brexit ac sy'n awyddus i'n helpu ni fel gwlad, mewn cyferbyniad llwyr â Monsieur Barnier, sy'n cynnal polisi o anhyblygrwydd ac sy'n ymddangos fel pe bai'n dymuno i ni barhau'n ddiddiwedd i dderbyn rheolau a rheoliadau a wneir gan sefydliadau'r UE na fyddwn yn cymryd rhan ynddynt, ac na fyddai modd i unrhyw wlad yn y byd sydd ag unrhyw hunan-barch eu derbyn?
Mae'r Unol Daleithiau yn economi enfawr sy'n tyfu—mae incwm cenedlaethol wedi codi 50 y cant ers 2010, ond yn yr UE, mae wedi aros yn ei unfan. Felly, dylem weld y manteision enfawr o gael cytundeb cynnar gyda'r Unol Daleithiau, yn enwedig gan mai dyna'r ffordd orau o roi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb masnach synhwyrol a rhesymol gyda ni.