2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OAQ55036
Mae tyfu ein heconomi drwy fasnach ryngwladol yn un o uchelgeisiau craidd y strategaeth ryngwladol. Mae'r heriau a'r cyfleoedd y mae allforwyr yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod pontio wrth adael yr UE a thu hwnt yn golygu bod cymorth Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. I ddilyn cwestiwn Dai Lloyd yn gynharach, a wnaiff y Gweinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol cael cytundeb masnach cynnar gyda'r Unol Daleithiau, lle mae gennym Lywodraeth sydd o blaid Brexit ac sy'n awyddus i'n helpu ni fel gwlad, mewn cyferbyniad llwyr â Monsieur Barnier, sy'n cynnal polisi o anhyblygrwydd ac sy'n ymddangos fel pe bai'n dymuno i ni barhau'n ddiddiwedd i dderbyn rheolau a rheoliadau a wneir gan sefydliadau'r UE na fyddwn yn cymryd rhan ynddynt, ac na fyddai modd i unrhyw wlad yn y byd sydd ag unrhyw hunan-barch eu derbyn?
Mae'r Unol Daleithiau yn economi enfawr sy'n tyfu—mae incwm cenedlaethol wedi codi 50 y cant ers 2010, ond yn yr UE, mae wedi aros yn ei unfan. Felly, dylem weld y manteision enfawr o gael cytundeb cynnar gyda'r Unol Daleithiau, yn enwedig gan mai dyna'r ffordd orau o roi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb masnach synhwyrol a rhesymol gyda ni.
Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hynod o ofalus yn y fan hon. Mae'n rhaid i ni gofio bod 60 y cant o'n masnach mewn nwyddau gyda'r UE, a dyna pam ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir mai ein blaenoriaeth fyddai cytundeb masnach gyda'r UE. Mae'r rheolau a'r rheoliadau hynny eisoes—os ydym yn troi ein cefnau arnynt, bydd y rhwystrau'n codi o ran mynediad at y marchnadoedd hynny, ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn.
Ac rwy'n credu, pan fyddwch yn dweud 'na fyddai modd i unrhyw wlad sydd ag unrhyw hunan-barch' gytuno i reolau gan rywun arall, mae hynny—. Yr hyn rydych chi'n ei awgrymu mewn gwirionedd yw ein bod yn ymrwymo i reolau Americanaidd yn lle rheolau'r UE, ac yn sicr nid yw hynny'n rhywbeth y gwnaethoch ei werthu pan oeddech yn ceisio dweud wrth bobl yng Nghymru y byddai'n syniad da i adael yr UE.
Mae Jacob Rees-Mogg wedi dweud y gallai gymryd 50 mlynedd i ni elwa o adael yr UE. Dyna realiti ein sefyllfa yn awr, ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr. Wrth gwrs, os gallwn gael cytundeb gweddus gyda'r Unol Daleithiau, byddai hynny'n ein helpu'n rhyngwladol i gynyddu ein hallforion, i weld rhagor o fewnfuddsoddi. Wrth gwrs, byddem eisiau gweld hynny, ond nid ydym eisiau hynny ar draul ein perthynas â'r UE.
Weinidog, ein partneriaid masnachu mwyaf yw'r Almaen a Ffrainc, yn y drefn honno, ac i fod yn deg â Neil Hamilton, mae UDA yn drydydd. Roedd ein perfformiad allforio yn gadarn y llynedd, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith a wnaeth yno; gwelsom fod ein hallforion wedi cynyddu bron i 5 y cant. Ond cafwyd gostyngiad yn yr allforion i'r Almaen, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn am y negeseuon rydym yn eu hanfon. Mae angen inni ddiogelu'r marchnadoedd Ewropeaidd hyn lle rydym yn aml yn allforio rhai o'n prif nwyddau, gyda phopeth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer swyddi sy'n talu'n dda ac ymchwil a datblygu ac yn y blaen.
Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir, ac roeddwn yn bryderus iawn pan welais y gostyngiad yn y ffigurau hynny, er ein bod, ar y cyfan, yn gwneud yn eithaf da o ran allforion. Ond roeddwn yn bryderus iawn o weld y gostyngiad yn ein hallforion i'r Almaen, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn ceisio denu'r Almaen i fod yn bartner rhyngwladol allweddol i ni. Dyna pam rydym wedi gwahodd y llysgennad yma, a bydd yn ymweld â de Cymru yn ogystal ag Airbus. Felly, rydym yn hynod ymwybodol fod y marchnadoedd hynny'n hanfodol i gynnal y 60 y cant hwnnw o fasnach gyda'r UE. Ond fel y dywedwch, mae'n rhaid i ni fod yn sensitif iawn yn y cyfnod anodd hwn lle mae llawer o bobl wedi colli hyder ac mae angen i ni adennill yr hyder hwnnw yn awr.