Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych yn nodi yn eich strategaeth ryngwladol, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o 21 o swyddfeydd dros y môr mewn 12 o wledydd'.
A wnewch chi felly gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer y swyddfeydd hyn, a nodi ble'n union y mae angen datblygu ein presenoldeb?